Skip to content

Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy, 2010

Dolenni perthnasol

Mesur pryderon bob dydd, gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, trosedd, addysg a'r amgylchedd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 26 Awst 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Mae'r llyfryn 'Yn eich Poced' ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn rhoi ffordd o fesur pryderon dydd i ddydd gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, trosedd, addysg a'r amgylchedd. Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r datganiad ystadegol yn rhoi rhywfaint o gefndir i'r daflen honno, a thabl cryno o'rllyfryn.

Mae'r llyfryn yn debyg i adroddiad y DU, 'Measuring progress: Sustainable Development Indicators', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010. Mae'r llyfryn ar gyfer Cymru yn cymharu â dangosyddion y DU, lle bo'r data hwnnw ar gael.

Mae'r tabl cryno yn dangos:

  • bod 17 o'r 44 o asesiadau dangosyddion yn dangos gwelliant amlwg;
  • bod 22 o'r 44 asesiadau dangosyddion yn dangos ychydig o welliant neu ddim gwelliant o gwbl;
  • bod 1 o'r 44 o asesiadau dangosyddion yn dangos gwaethygiad amlwg;
  • nad oes gan 4 o'r 44 o asesiadau dangosyddion ddigon o ddata, neu nad oes data y gellir ei gymharu ar eu cyfer.

Bydd y llyfryn 'Yn eich Poced' yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i helpu i fonitro'r cynnydd tuag at ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru.

I gyd-fynd â'r llyfryn, mae'r data ar gyfer pob dangosydd, gan gynnwys dadansoddiad fesul awdurdod lleol lle bo'n berthnasol, ar gael ar y wefan StatsWales.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Measuring Progress: Sustainable Development Indicators 2010

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Awst 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')