Skip to content

Athrawon mewn Gwasanaeth, Swyddi Gwag ac Absenoldeb Drwy Salwch, Ionawr 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar athrawon, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 14 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar athrawon mewn gwasanaeth, swyddi gwag ac absenoldeb drwy salwch yn cynnwys data ar gyfer Cymru ym mis Ionawr 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 16 Mehefin 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Athrawon mewn gwasanaeth gydag awdurdodau lleol (ALlau):

  • Roedd 26,977 o athrawon cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, gostyngiad o 355 ers mis Ionawr 2011.

Swyddi gwag i athrawon:

  • Cyfanswm nifer y swyddi gwag i athrawon mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd oedd 93. Mewn ysgolion meithrin roedd 2 swydd wag, 56 mewn ysgolion cynradd a 35 mewn ysgolion uwchradd.
    Y gyfradd swyddi gwag oedd 0.4 y cant, yr un peth ag ym mis Ionawr 2011.

    Absenoldebau drwy salwch gan athrawon:
  • Fe gymerodd 59 y cant o athrawon mewn ysgolion a gynhelir gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch yn ystod 2011, i lawr o 64 y cant yn ystod 2010.
  • Cyfanswm nifer y diwrnodau absenoldeb oherwydd salwch a gymerwyd oedd 213,317 o ddiwrnodau, gostyngiad o dros 2 y cant.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2013 (dros dro i'w gadarnhau ar y tudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')