Skip to content

Gwaharddiadau o Ysgolion, 2010/11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar waharddiadau o ysgolion yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Chwefror 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar waharddiadau o ysgolion yng Nghymru yn cynnwys data dros y deng mlynedd academaidd diwethaf, o 2001/02 i 2010/11, a data ar gyfer Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon am 2009/10.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 2 Mawrth 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn 2010/11 bu 158 gwaharddiad parhaol, gostyngiad o 27 ers 2009/10;
  • Roedd y gyfradd uchaf o waharddiadau parhaol o ysgolion uwchradd ym Mhowys a Chasnewydd, gydag 1.5 gwaharddiad i bob 1,000 o ddisgyblion;
  • Ymosodiad neu drais tuag at ddisgyblion ac athrawon oedd y ddau reswm a ddefnyddiwyd amlaf am waharddiad parhaol;
  • Bu 18,298 gwaharddiad dros dro yn 2010/11, cynnydd o 20 ers 2009/10.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')