Skip to content

Y Gymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch, 2009/10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y bwletin ystadegol diweddaraf ar y Gymraeg mewn Addysg Uwch, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 27 Gorffennaf 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r Bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr a gofrestrwyd mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) yng Nghymru ac addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â staff sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fyny at y flwyddyn academaidd 2009/10.  Mae’r bwletin yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 29 Gorffennaf 2010.

Y prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf yw:

  • Bu gostyngiad o 5.9 y cant yn nifer y myfyrwyr yn cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2009/10 o’i  gymharu â ffigur 2008/09(1).
  • Yn 2009/10, cyfran yr holl fyfyrwyr a gofrestrwyd mewn SAU yng Nghymru yn cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg oedd 3.8 y cant, lawr o 4.2 y cant yn 2008/09(1).
  • Mae'r nifer o fyfyrwyr sy’n hanu’n wreiddiol o Gymru mewn SAU yng Nghymru yn cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg wedi lleihau 1.4 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf(1).
  • Nid yw’r gyfran o fyfyrwyr sy’n hanu’n wreiddiol o Gymru mewn SAU yng Nghymru sy’n cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg wedi newid ar 7.2 y cant(2).
  • Ac eithrio Cymraeg, y pynciau sy’n cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg fwyaf poblogaidd oedd addysg, celfyddydau a dylunio creadigol ac astudiaethau cymdeithasol(2).
  • Parhau i gynyddu mae’r nifer o staff a gofnodir fel rhai sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod nifer y staff sydd mewn gwirionedd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros yn gyson fwy neu lai ers 2008/09, gan arwain at fwy o wahaniaeth rhwng y rhai sy’n gallu a’r rhai sydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(1) Ffigurau yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Prifysgol Cymru, Casnewydd
(2) Nid yw’r ffigurau yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Prifysgol Cymru, Casnewydd

Nodyn

Mae’r dull o gofnodi nifer y myfyrwyr yn cael eu haddysgu rywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg a ddefnyddir gan un sefydliad wedi newid eleni. Ni all y sefydliad ddarparu niferoedd myfyrwyr union ar gyfer pob blwyddyn, dim ond amcangyfrifon penodol ar gyfer 2008/09 a 2009/10, sydd wedi eu defnyddio lle sy’n bosibl. Mae disgrifiad manylach i’w gael yn yr adran Nodiadau yn y bwletin.

Mae’r dull o adnabod y myfyrwyr sy’n cyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi newid eleni hefyd. Mae disgrifiad manylach o’r newidiadau i’w gael yn yr adran Nodiadau yn y bwletin. Mae’r ffigurau ar gyfer  blwyddyn academaidd 2009/10 a phob blwyddyn flaenorol wedi’u diwygio er mwyn galluogi cymariaethau dros amser.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)