Skip to content

Staff mewn Sefydliadau Addysg Bellach, 2009/10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar staff mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 21 Gorffennaf 2011, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Casglwyd ystadegau ar staff mewn Sefydliadau Addysg Bellach o’r sefydliadau gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DFES) trwy gyfrwng y Cofnod Cyllid. Mae datganiadau blaenorol yn dod o’r Cofnod Staff Unigol (SIR), fodd bynnag, mae'r casgliad hwn wedi cael ei ohirio oherwydd materion adnoddau.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod 2009/10, roedd cyfanswm o 8,530 staff cyfwerth ag amser llawn (CALl), a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau AB yng Nghymru.
  • Roedd y nifer cyffredinol y staff CALl, a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau AB yng Nghymru, wedi gostwng bron i 3 y cant rhwng 2008/09 a 2009/10, gan barhau â'r duedd ar i lawr ers y brig yn nifer y staff CALl yn 2005/06.
  • Ar lefel sefydliadol, amrywiodd newidiadau flwyddyn ar flwyddyn yn nifer y staff CALl ar draws sefydliadau AB, gyda hanner yn profi gostyngiad yn nifer y staff o gymharu â 2008/09.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Statswales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')