Skip to content

Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, 2010-11

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fenthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, a gynhyrchir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), ar 23 Mehefin 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar y gwariant ar fenthyciadau, ad-daliadau benthyciadau a gweithgarwch benthycwyr yn cynnwys data ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a myfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol 2010-11 a ffigurau cymaradwy ar gyfer 2008-09 a 2009-10. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 22 Mehefin 2010.

Dyma’r pwyntiau allweddol o’r datganiad diweddaraf:

  • Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2010-11 roedd y balans dros ben o fenthyciadau myfyrwyr wedi cynyddu £205 miliwn ers y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn awr yn £1.94 biliwn.
  • Mae £1.89 biliwn o’r ffigwr yma yn ymwneud â benthyciadau sy’n ddibynnol ar incwm, sef cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae’r gweddill yn fenthyciadau ar arddull morgais, sef cyfrifoldeb yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, BIS (DIUS gynt), o hyd.
  • Y llynedd, benthyciwyd £251m i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru neu i fyfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru. Roedd £159m yn fenthyciadau ar gyfer cynhaliaeth a £92m yn fenthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu. Gwelwyd lleihad o 0.3% yn y gwariant ar fenthyciadau ar gyfer cynhaliaeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Ad-dalwyd gwerth £61m o fenthyciadau i gyfrifon benthycwyr. Roedd £57m o’r ad-daliadau yn ymwneud â benthyciadau sy’n ddibynnol ar incwm.
  • Ar gyfartaledd, y ddyled ar gyfer carfan ad-dalu 2011 sydd newydd ddechrau ad-dalu ym mis Ebrill 2011 yw £13,850.
  • Roedd y ganran o fenthycwyr a oedd wedi ad-dalu eu benthyciadau yn llawn ar 30 Ebrill 2011 yn amrywio o 2.2% ar gyfer y garfan ad-dalu diweddaraf (2011) i 36.4% ar gyfer carfan 2000 (ar ôl 11 mlynedd o atebolrwydd ad-dalu).

Hefyd ar 23 Mehefin 2011, cyhoeddwyd Datganiad Ystadegol Cyntaf ychwanegol gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i fynd gyda'r prif gyhoeddiad. Yn yr ail gyhoeddiad hwn, nad yw wedi ei ddosbarthu fel Ystadegau Gwladol, dangosir gwybodaeth fanwl ar Ad-daliadau sy'n Ddibynnol ar Incwm.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr: Dyled ac ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

Gwefan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr: Ad-daliadau sy'n Ddibynnol ar Incwm yn ôl carfan ad-dalu

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk  

Diweddariad nesaf

Mehefin 2012 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w cyhoeddi cyn hir)