Skip to content

Cyfrifiad 2011: Canlyniadau Cyntaf Cymru

Cafodd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 16 Gorffennaf. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon o’r boblogaeth ac o gartrefi, a hynny ar lefel Cymru ac ar lefel awdurdodau lleol.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae SYG wedi cyhoeddi bwletin ystadegol hefyd sy’n crynhoi’r canlyniadau allweddol ar gyfer Cymru.

Y canlyniadau allweddol i Gymru yw:

  • Ar noson y cyfrifiad roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn, sef ei phoblogaeth fwyaf erioed.
  • Tyfodd y boblogaeth 153,000 yn y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf, gan gynyddu o 2.9 miliwn yn 2001, sef cynnydd o 5.3 y cant. Hwn oedd y twf mwyaf yn y boblogaeth ers 1921.
  • Er i’r gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau beri cynnydd bach yn y boblogaeth, roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90 y cant o’r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o’r DU.
  • Roedd canran y boblogaeth yng Nghymru a oedd yn 65 oed a throsodd yr uchaf o blith unrhyw gyfrifiad sef dros 18 y cant, cyfanswm o 563,000 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd o 57,000 o bobl yn y categori oedran hwn ers 2001, ac yn gynnydd o 450,000 ers 1911 pan roedd 113,000 o bobl 65 oed a throsodd.
  • Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a 700 yn 1911.
  • Yn 2011, roedd 178,000 o blant o dan bump oed yng Nghymru, 11,000 yn fwy nag yn 2001.
  • Roedd 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar noson y cyfrifiad. Maint cyfartalog cartrefi oedd 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn 2011, yr un peth ag yn Lloegr, nad oedd wedi newid ers 2001. Yn 1911, roedd gan gartrefi yng Nghymru a Lloegr 4.3 o breswylwyr ar gyfartaledd, a oedd bron i ddwbl y cyfanswm presennol.
  • Tyfodd y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011 heblaw am Flaenau Gwent, lle y bu dirywiad bach.
  • Yr awdurdodau unedol â’r twf canrannol mwyaf yn y boblogaeth oedd Caerdydd (12 y cant), Sir Benfro (8 y cant), a Phen-y-bont ar Ogwr (8 y cant).

Cyhoeddwyd hefyd dablau sy’n crynhoi’r canlyniadau fesul awdurdodau lleol yng Nghymru ar wefan StatsWales.

Cynhaliwyd y Cyfrifiad ddydd Sul 27 Mawrth 2011. Casglodd wybodaeth am bobl a oedd yn byw fel arfer yng Nghymru neu yn Lloegr, ac mae’n ffynhonnell hynod bwysig o wybodaeth am y boblogaeth ac am gartrefi. Mae’n rhoi gwybodaeth fanwl i ni am y boblogaeth gyfan, am ardaloedd daearyddol bach, ac am grwpiau bach o’r boblogaeth.

Bydd gwybodaeth bellach am y Cyfrifiad yn cael ei gyhoeddi dros y 18 mis nesaf; ceir gwybodaeth bellach ym Mhrospectws Cyfrifiad 2011. Bydd y wybodaeth a ryddheir yn cynnwys data ar bynciau megis ethnigrwydd, crefydd, teithio i’r gwaith, iechyd a theuluoedd, hunaniaeth, yr iaith Gymraeg, cyflogaeth ac addysg.

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Cyfrifiad 2011

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Cyfrifiad 2011, Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru 

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Mhrospectws Cyfrifiad 2011

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')