Skip to content

Dadansoddi data arbrofol ar les goddrychol o Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Ebrill i Fedi 2011

Cafodd ystadegau o’r adroddiad ‘Dadansoddi data arbrofol ar les goddrychol o Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Ebrill i Fedi 2011’, a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, eu rhyddhau ar 28 Chwefror. Gwnaed hynny yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig (DU).

Mae’r adroddiad yn cyflwyno amcangyfrifon cychwynnol ar les goddrychol ar gyfer chwe mis o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2011. Mae’r  amcangyfrifon cychwynnol hyn wedi’u seilio ar sampl o 80,000 o oedolion sy’n 16 oed ac yn hŷn o bob cwr o’r DU, gan gynnwys 9,000 o ymatebwyr yng Nghymru.

Pennwyd pedwar cwestiwn ar les goddrychol yn seiliedig ar ymchwil gadarn a chyngor academaidd.  Cafodd y cwestiynau hyn eu cyflwyno yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ym mis Ebrill 2011:

  • Ar y cyfan, pa mor fodlon ar eich bywyd ydych chi y dyddiau hyn?
  • Ar y cyfan, i ba raddau ydych chi’n teimlo bod y pethau yr ydych chi’n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil?
  • Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi’n teimlo ddoe?
  • Ar y cyfan, pa mor bryderus oeddech chi’n teimlo ddoe?

Caiff y data ar les a gasglwyd gan y cwestiynau hyn ei ystyried yn ‘arbrofol’ er mwyn caniatáu ymatebion cynnar gan ddefnyddwyr, ac unrhyw fireinio a datblygu pellach ar y cwestiynau yn ôl yr angen.  

Y canlyniadau allweddol i Gymru oedd:

  • Pan ofynnwyd, ‘Ar y cyfan, pa mor fodlon ar eich bywyd ydych chi y dyddiau hyn?’ amcangyfrifwyd bod y mwyafrif (75.1 y cant) o oedolion yng Nghymru wedi  rhoi sgôr o 7 neu fwy allan o 10. Fodd bynnag, rhoddwyd sgôr o lai na 5 allan o 10 gan 7.3 y cant o oedolion ar gyfer y cwestiwn hwn (am fodlonrwydd  ar fywyd). Roedd y canlyniadau hyn yn debyg i’r canlyniadau ar gyfer y DU gyfan (75.5 a 7.0 y cant, yn ôl eu trefn).
  • Pan ofynnwyd, ‘Ar y cyfan, i ba raddau ydych chi’n teimlo bod y pethau yr ydych chi’n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil?’ amcangyfrifwyd bod y mwyafrif  (79.0 y cant) o oedolion yng Nghymru wedi rhoi sgôr o 7 neu fwy allan o 10. Amcangyfrifwyd mai  5.2 y cant yn unig o oedolion a roddodd sgôr o lai na 5 allan o 10. Roedd y canlyniadau hyn yn debyg i’r canlyniadau ar gyfer y DU gyfan (79.5 a 5.1 y cant, yn ôl eu trefn).
  • Pan ofynnwyd, ‘Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi’n teimlo ddoe?’ amcangyfrifwyd bod y mwyafrif (72.0 y cant) o oedolion yng Nghymru wedi rhoi sgôr o 7 allan o 10. Fodd bynnag, rhoddwyd sgôr o lai na 5 allan o 10 gan 11.3 y cant o oedolion. Roedd y canlyniadau hyn yn debyg i’r canlyniadau ar gyfer y DU gyfan  (71.3 a 10.9 y cant, yn ôl eu trefn).
  • Pan ofynnwyd, ‘Ar y cyfan, pa mor bryderus oeddech chi’n teimlo ddoe?’ amcangyfrifwyd bod y mwyafrif  (59.6) o oedolion yng Nghymru wedi rhoi sgôr isel (rhwng 0 a 3) ar gyfer y cwestiwn hwn, tra bo 22.1 y cant wedi rhoi sgôr o 6 neu fwy allan o 10. Roedd y canlynidau hyn yn debyg i’r canlyniadau ar gyfer y DU gyfan  (59.6 a 22.3 y cant, yn ôl eu trefn).

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Dadansoddiad o ddata Arbrofol Goddrychol Lles o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

7 Mehefin 2012