Skip to content

Rhagolygon Gwariant Cyfalaf Awdurdodau Lleol, 2012-13

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Ragolygon Gwariant Cyfalaf Awdurdodau Lleol: 2012-13, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 30 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ragolygon gwariant cyfalaf ac ariannu gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau’r heddlu, yr awdurdodau tân ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol, ar gyfer 2012-13.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn 2012-13, yn ôl awdurdodau lleol Cymru, rhagwelir mai cyfanswm y gwariant cyfalaf, gan gynnwys awdurdodau’r heddlu, yr awdurdodau tân ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol, fydd £1,213 miliwn. Mae’r ffigwr hwn yn  gynnydd o £149 miliwn neu 14% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Mae awdurdodau’r heddlu wedi cofnodi cynnydd o 48% yn y gwariant cyfalaf a ragwelir, i £58 miliwn, tra bod yr awdurdodau tân yn nodi y bydd gostyngiad o 43% i £14 miliwn.
  • Gwasanaethau addysg sy’n cyfrif am 23% o gyfanswm y gwariant cyfalaf a ragwelir, gwasanaethau tai sydd am 18% a gwasanaethau ffyrdd a thrafnidiaeth am 16%.
  • Mae 55% o’r cyllid ar gyfer y gwariant  hwn ar ffurf cymorth allanol, yn bennaf oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn grantiau a benthyca â chymorth.  Daw’r 45% sy’n weddill o ffynonellau ariannu mewnol yr awdurdodau.
  • Rhagwelir y bydd yr elfen o’r cyllid mewnol sy’n fenthyciadau heb eu cynnal yn gweld cynnydd o £27 miliwn, neu 10%, i £283 miliwn.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')