Skip to content

Gwariant sydd Wedi'i Gyllidebu ar gyfer Darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, 2011-12

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Wariant sydd wedi’i Gyllidebu ar gyfer Darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA): 2011-12, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 14 Mehefin 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau ar wariant sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer Darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig yn cynnwys data ar gyfer Cymru a ddarparwyd gan Awdurdodau Addysg Lleol Cymru ar gyfer 2011-12.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • £348 miliwn yw cyfanswm y gwariant sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer darpariaeth AAA yn 2011-12.
  • O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Ynys Môn  sydd â’r mwyaf, £1,024 y disgybl a Bro Morgannwg â’r lleiaf, £549 y disgybl.
  • Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 22% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 38%. Arian y mae AALlau yn ei gadw'n ganolog yw'r 40% sy'n weddill.
  • Sir Ddinbych sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 78%, ac Ynys Môn sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 18%.
  • Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £770. Mae’n cynnwys £461 o wariant dirprwyedig y disgybl a £309 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')