Skip to content

Data Cydraddoldeb ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar ddata cydraddoldeb ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru eu cyhoeddi ar 29ain Mai 2012 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau ar gydraddoldeb yn cynnwys gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) ar oedran, rhyw, ethnigrwydd, crefydd ac anabledd o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru rhwng 2004 a 2010.
Y pwyntiau allweddol o'r bwletin yw:

  • Mae cyfran y bobl ifanc sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn uwch nag sydd yn y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol. Yn 2010, roedd tua 41 y cant o denantiaid tai cymdeithasol dan 25 oed (sydd hefyd yn cynnwys plant) o'i gymharu â 31 y cant yn y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol.
  • Fel yn y boblogaeth cyffredinol mae'r rhaniad rhyw ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn amrywio gan ddibynnu ar oed gyda chynnydd sylweddol ar y gyfran o fenywod o gymharu â dynion yn y grŵp 70 oed a throsodd, yn ôl pob tebyg oherwydd bod menywod yn gyffredinol yn byw yn hirach na dynion.
  • Yn 2009, roedd 4.1 y cant o'r holl denantiaid tai cymdeithasol yn dod o gefndir du neu leiafrifoedd ethnig (BME), a oedd yr un fath â'r gyfran o fewn y boblogaeth gyffredinol. Mae cyfran y tenantiaid tai cymdeithasol o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn rhwng 2004-2008 gan gyrraedd uchafbwynt o 4.6 y cant, ond ers hynny mae wedi bod yn gostwng ac yn 2010 roedd yn 3.9 y cant.
  • Yn 2010, roedd Cristnogaeth dal yn y grefydd fwyaf cyffredin ymysg tenantiaid tai cymdeithasol, gyda thua 57 y cant o denantiaid yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, mae'r gyfran hon wedi gostwng yn sylweddol ers 2004 pan bod bron 70 y cant o'r holl denantiaid tai cymdeithasol wedi dosbarthu eu hunain fel Cristnogion.
  • Yn 2010, mae cyfran uwch o denantiaid tai cymdeithasol yn anabl (39 y cant) sydd yn uwch o’i gymharu â’r boblogaeth Cymru yn ei gyfanrwydd lle mae 24 y cant yn anabl.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd