Skip to content

Stoc, Gosodiadau a Lleoedd Gwag Tai Cymdeithasol, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am Stoc, Gosodiadau a Lleoedd Gwag Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru ar 16 Tachwedd 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r Datganiad Ystadegol hwn yn cyflwyno gwybodaeth ar y stoc a gedwir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) ar 31 Mawrth 2011, yn ogystal â gwybodaeth am nifer y lleoedd gwag a gosodiadau.

Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Tachwedd 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae cynnydd bach yn y stoc tai cymdeithasol yn parhau, gyda 236,312 o  anheddau, fflatiau un ystafell a gwelyau (h.y. unedau tai) landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2011. Ers mis Mawrth 2010 bu cynnydd yn stoc tai cymdeithasol o 0.7 y cant tra arhosodd cyfradd o dai cymdeithasol yr un peth, sef 17.9 o unedau ymhob 100 o gartrefi.
  • Ar 31 Mawrth 2011, RSLs oedd yn berchen ar 62 y cant o'r holl stoc tai cymdeithasol, yn bennaf oherwydd trosglwyddiadau gwirfoddol pellach ar raddfa fawr o stoc, o awdurdodau lleol i RSLs, yn ystod y flwyddyn. Erbyn 31 Mawrth 2011, RSLs oedd yn berchen ar yr holl dai cymdeithasol yn hanner o’r awdurdodau ledled Cymru.
  • Mae'r nifer o unedau tai gwag a chyfran y stoc tai cymdeithasol gwag wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Ar 31 Mawrth 2011, roedd 3,585 (1.6 y cant) o stoc tai cymdeithasol yn wag ac o’r rhain dros chwarter (29 y cant) wedi bod yn wag am fwy na 6 mis.
  • Yn ystod 2010-11, roedd 22,327 o osodiadau newydd o stoc tai cymdeithasol. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain (58 y cant) yn parhau i fod drwy restrau aros am dai, gyda 18 y cant pellach trwy osodiadau blaenoriaeth i gartrefi digartref.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')
Cafodd Stoc a Rhent Tai Cymdeithasol, 2011-12 - 26 Gorffennaf 2012
Llefydd Gwag, Gosodiadau ac Ôl-ddyledion Tai Cymdeithasol 2011-12 - Chwefror 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')