Skip to content

Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr, July 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 28 Tachwedd 2008 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Mae ystadegau ar nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig yn cynnwys data ar gyfer 21 Gorffennaf 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2008.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

  • Dangosodd Cyfrif Gorffennaf 2008 fod 798 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
  • Roedd cyfanswm o 56 o safleoedd ar draws Cymru, sy'n golygu 14 carafán ar gyfartaledd ym mhob safle.

Safleoedd awdurdodedig:

  • Roedd 597 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, sef 74 y cant o'r holl garafannau.

Safleoedd anawdurdodedig:

  • Roedd 70 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig, ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn, sef 9 y cant o'r holl garafannau.
  • Roedd 131 o garafannau eraill (16 y cant) ar safleoedd anawdurdodedig, ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn.

Safleoedd Sipsiwn yr Awdurdodau Lleol:

  • Roedd cyfanswm o 350 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a ddarperir gan yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar 21 Gorffennaf 2008.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5055
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2009 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)