Skip to content

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig: Gwerthiant Statudol, Mis Ebrill i Fis Mehefin 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU, ar 17 Medi 2008, rhyddhawyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf i gael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL) a werthwyd yn statudol.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar nifer yr anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cwblhawyd eu gwerthu yn statudol yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer y chwarter rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2008.

Y pwyntiau allweddol o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Cafodd 25 o anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu gwerthu'n statudol yn ystod y chwarter rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2008; 24 o'r rheini wedi eu gwerthu drwy gyfrwng y cynllun Hawl i Brynu, ac 1 wedi'i werthu drwy gyfrwng y cynllun Hawl i Gaffael.
  • Bu cynnydd o 4 yng nghyfanswm y gwerthiant ers y ffigwr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2008, a chynnydd o 15 ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Bu cynnydd o 21 yng nghyfanswm y gwerthiant o dan y cynllun Hawl i Brynu o'i gymharu â'r un chwarter yn 2007-08, a chwymp o 6 yn y gwerthiant dan y cynllun Hawl i Gaffael.
  • Cafodd 2,427 o anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu gwerthu'n statudol ers mis Hydref 1980; 96 y cant ohonynt wedi eu gwerthu drwy gyfrwng y cynllun Hawl i Brynu.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5055
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2008 (dros-dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)