Skip to content

Gwerthiannau Hawl i Brynu, Ionawr - Mawrth 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr Ystadegau Cenedlaethol diweddaraf ar anheddau a werthwyd dan yr Hawl i Brynu ac anheddau eraill Awdurdodau Lleol a werthwyd, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eu rhyddhau ar 18 Mehefin 2008 yn unol â’r trefniadau sydd wedi’u cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar  nifer anheddau Awdurdodau Lleol a werthwyd dan yr Hawl i Brynu yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer y chwarter Ionawr - Mawrth 2008.  Mae'r datganiad newydd yn diweddaru'r ystadegau a gafodd eu rhyddhau ar 19 Mawrth 2008.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y chwarter Ionawr - Mawrth 2008 cafwyd 351 o geisiadau Hawl i Brynu.
  • Roedd hyn yn gynnydd o 1 ar y nifer yn y chwarter Hydref - Rhagfyr 2007, sef 350, ond 855 yn llai na'r nifer yn yr un chwarter flwyddyn cyn hynny.
  • Mae nifer y ceisiadau yn parhau i fod yn is na'r nifer cyn y cynnydd mawr yn ystod 2002-03.
  • Cafodd 123 o anheddau eu gwerthu dan yr Hawl i Brynu yn ystod y chwarter Ionawr - Mawrth 2008.  Roedd hyn 74 yn llai na'r chwarter blaenorol a 176 yn llai na'r un chwarter flwyddyn cyn hynny.
  • Cafodd cyfanswm o 819 o anheddau eu gwerthu dan yr Hawl i Brynu yn ystod 2007-08, sef 429 yn llai nag yn ystod 2006-07.
  • Ar gyfartaledd, dim ond tua 57% o geisiadau sy'n cyrraedd pen y broses, sef bod y gwerthiant yn cael ei gwblhau.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5055
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2008 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')