Skip to content

Erthyliadau, 2010

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am erthyliadau yng Nghymru ar 24 Mai 2011, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau hyn ynghylch erthyliadau ymhlith menywod sy’n preswylio yng Nghymru yn dod o fwletin ystadegol a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd am ystadegau erthyliadau 2010 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r bwletin yn rhoi crynodeb o wybodaeth o'r ffurflenni hysbysu ynghylch erthyliad a ddychwelwyd i Brif Swyddogion Meddygol Cymru a Lloegr mewn perthynas ag erthyliadau yng Nghymru a Lloegr yn 2010. Ceir detholiad o wybodaeth am fenywod sy'n preswylio yng Nghymru isod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y bwletin ystadegol ar wefan yr Adran Iechyd.

Ffeithiau Allweddol:

  • Yn 2010, cafwyd 8,632 o erthyliadau gan fenywod yn preswylio yng Nghymru, sef lleihad o 2% ers 2009.
  • Cafodd 91% o erthyliadau eu cyflawni cyn 13 wythnos, gan gynnwys 70% o dan 10 wythnos.
  • Cafodd 93% o erthyliadau eu hariannu gan y GIG (66% yn ysbytai'r GIG a 27% yn y sector annibynnol dan gontract i'r GIG); cafodd y 7% arall eu hariannu'n breifat.
  • Roedd y gyfradd erthylu ar gyfer menywod sy'n byw yng Nghymru yn is na'r gyfradd yn Lloegr.

Gwybodaeth bellach

Gwefan yr Adran Iechyd; maes gwaith Ystadegol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')