Skip to content

Y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: Mai 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 2 Gorffennaf 2008, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae'r ystadegau am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer Mai 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 4 Mehefin.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • cafwyd bron 27,000 o alwadau brys, i fyny 5.9% o'i gymharu â mis Mai 2007;
  • cyrhaeddodd 62.7% o'r ymatebion cyntaf i alwadau brys a oedd yn fygythiad uniongyrchol i fywyd (Categori A) o fewn 8 munud, 66.8% o fewn 9 munud a 71.2% o fewn 10 munud;
  • cyrhaeddodd ambiwlans o fewn yr amserau targed yn 89.8% o alwadau Categori A ac 82.9% o alwedau Categori B;
  • cyrhaeddodd 82.4% o'r siwrneiau brys ddim mwy na 15 munud yn hwyrach na'r amser cyrraedd y gofynnwyd amdano.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk