Skip to content

Amseroedd Aros GIG Cymru: Diwedd Hydref 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn dangos gwybodaeth am amseroedd aros am dderbyniad fel claf mewnol neu fel achos dydd ac ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol. Mae'r datganiad hefyd yn dangos gwybodaeth am dargedau penodol am amseroedd aros cataract a chardioleg.

Sylwer nad yw amseroedd aros ar gyfer endosgopiau diagnostig yn cael eu cofnodi yn y gyfres data o hyn ymlaen.

Amseroedd aros am dderbyniad i'r ysbyty fel claf mewnol neu fel achos dydd

  • Gostyngodd y nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 22 wythnos ar y rhestr aros cleifion mewnol/achosion dydd yn ystod y mis o 7,473 i 6,996.

Amseroedd aros ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol

  • Gostyngodd y nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 22 wythnos ar y rhestr aros cleifion allanol yn ystod y mis o 16,997 i 14,820.

Amseroedd aros am driniaeth a dargedwyd yn benodol

I'w gyflawni o 1 Ebrill 2004:

  • Arhosodd nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 4 mis am lawdriniaeth cataractau yn ystod y mis ar 0.

Targed Cardiaidd - I'w gyflawni erbyn 1 Ebrill 2007:

  • Cynyddodd nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 6 mis am apwyntiad cyntaf claf allanol cardioleg yn ystod y mis o 1 i 2.
  • Arhosodd nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 4 mis am angiograffi yn ystod y mis ar 0.
  • Arhosodd nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 6 mis am ail-fasgwlareiddio ar y galon yn ystod y mis ar 0.

Ffigurau dros dro yw'r holl ffigurau sy'n ymwneud â 31 Hydref 2007.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk