Skip to content

Ystadegau Deintyddol GIG, Cymru Hydref-Rhagfyr 2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Hwn yw'r trydedd mewn cyfres o ddatganiadau ystadegol chwarterol yn dilyn cyflwyno contract deintyddol newydd y GIG ar 1af Ebrill 2006. Mae'r datganiad yn cynnwys triniaeth ddeintyddol y GIG gan 'ddeintyddion y stryd fawr'. Nid yw'n cynnwys gwaith preifat gan ddeintyddion nac yn cynnwys gwybodaeth am ddeintyddion sy'n gweithio mewn ysbyty neu wasanaeth deintyddol cymunedol.

Mae'r ffigurau'n berthnasol i'r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2006 neu i'r gweithgaredd yn ystod y cyfnod rhwng Hydref-Rhagfyr 2006. Maent yn ymddangos mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Is-adran Ymarfer Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG at ddibenion rheoli.

Ni ellir cymharu'r data yn yr adroddiad hwn â bwletinau blaenorol o dan hen drefniadau contractau.

Gweithgaredd rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2006:

  • Cafwyd 557,000 o geisiadau deintyddol GIG gan ddeintyddion yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr 2006, o'i gymharu a 330,000 rhwng Ebrill a Mehefin a 499,000 rhwng Gorfennaf a Medi.
  • Cofnodwyd bod 1,198,000 Unedau o Weithgaredd Deintyddol rhwng Hydref a Rhagfyr 2006, o'i gymharu a  667,000 rhwng Ebrill a Mehefin a 1,053,000 rhwng Gorfennaf a Medi.

Gweithlu y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2006:

  • Cofnodwyd bod 1,150 o ddeintyddion ar gontractau agored y GIG (perfformwyr) ar y system "Taliadau Ar-lein".
  • Roedd 3.9 deintydd ar gyfer 10,000 o'r boblogaeth.

Cleifion wedi eu trinio:

  • Cofnodwyd bod 1.64m o gleifion wedi eu trinio yn y 24 mis hyd at 31 Rhagfyr 2006, sydd yn gyfwerth a 55 y cant o'r boblogaeth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk