Skip to content

Monitro Ystadegau Tân, Chwarter 4 2011 a Chwarter 1 2012

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol (dros dro) diweddaraf ar danau, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 4 Gorffennaf 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r data dros dro diweddaraf ar danau yn dangos data ar gyfer Cymru o 1 Hydref 2011 i 31 Mawrth 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 26 Ionawr 2012.

Nid yw’r bwletin arferol yn cael ei gyhoeddi mwyach, ond mae’r data yn awr ar gael ar wefan StatsWales.

Dyma’r prif bwyntiau:

Tanau:

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 14,638 o danau a chamrybuddion tân yn y cyfnod 1 Hydref 2011 i 31 Mawrth 2012, 8 y cant yn is na Hydref 2010 i Fawrth 2011.
  • Yn y cyfnod 1 Hydref 2011 i 31 Mawrth 2012, bu gostyngiad o 13 y cant yn y nifer o brif danau yng Nghymru o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Anafiadau:

  • Cafwyd 8 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru yn y 6 mis hyd at 31 Mawrth 2012, 3 yn llai nag yn y 6 mis hyd at 31 Mawrth 2011.
  • Bu 121 o anafiadau, ac fe wnaeth 195 arall dderbyn cymorth cyntaf, cael eu hanfon am brofion rhagofalus neu gael eu cynghori i geisio cyngor meddygol.

Camrybuddion Tân:

  • Yn y 6 mis hyd at 31 Mawrth 2012, cafwyd 7,779 o gamrybuddion tân yng Nghymru, nifer tebyg i’r hynny a gafwyd yn y cyfnod 1 Hydref 2011 i 31 Mawrth 2012.
  • Bu 391 o gamrybuddion tân maleisus yn y cyfnod Hydref 2011 i Fawrth 2012, bron i 70 yn fwy na’r cyfnod Hydref 2010 to Mawrth 2011.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen i'w gyhoeddi cyn hir)