Skip to content

Cyflwr yr Amgylchedd, 2012

Dolenni perthnasol

Hoffem wybod a ydych yn defnyddio dangosyddion ‘Cyflwr yr Amgylchedd’, yr hyn rydych yn eu defnyddio ar eu cyfer, a pa mor ddefnyddiol yw’r adroddiad ‘Cyflwr yr Amgylchedd’.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Gyflwr yr Amgylchedd a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru eu diweddaru ar 25 Gorffennaf 2012, yn unol â’r trefniadau sydd wedi’u cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r bwletin yn cyflwyno gwybodaeth ar y dangosyddion sy’n monitro cynnydd yn ôl Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cymru.
Dyma’r prif bwyntiau o’r bwletin diweddaraf:

  • O’r dangosyddion sydd wedi’u diffinio, a ble mae gwybodaeth ar gael, mae 46 y cant ohonynt yn dangos cynnydd clir.
  • Mae 33 o’r 100 dangosydd yn dangos gwelliant clir.
  • Mae 32 o’r 100 dangosydd yn sefydlog neu ddim yn dangos unrhyw duedd clir.
  • Mae 6 o’r 100 dangosydd yn dangos dirywiad clir.
  • Mae 13 o’r dangosyddion â data annigonol (mae 7 ohonynt wrthi’n cael eu datblygu) a 16 o’r dangosyddion heb ddata y tu hwnt i'r llinell sylfaen.

Gellir canfod canlyniadau ar gyfer dangosyddion unigol yn yr adroddiad ar-lein ‘Cyflwr yr Amgylchedd’. Cyflwyna’r adroddiad ddadansoddiadau a gwybodaeth cefndir. Mae data manylach ar gael ar ein gwefan StatsWales, lle gellir trin neu’u lawr lwytho’r data.

Bydd tablau ar-lein StatsWales yn cael eu diweddaru ar 25 Gorffennaf 2012. Efallai na fydd rhai tablau ar gael yn ystod y cyfnod maent yn cael eu diweddaru.

Er mwyn canfod sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio dangosyddion yr amgylchedd, rydym yn cynnal ymgynghoriad 12 wythnos, gan ddechrau ar 25 Gorffennaf 2012.  Byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau ac adborth yn fawr.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)