Skip to content

Awdurdodau Lleol Rheoli Gwastraff Trefol, Ionawr-Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau chwarterol diweddaraf ar awdurdodau lleol wastraff trefol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mehefin 2012 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys canlyniadau chwarterol dros dro o’r system ‘WasteDataFlow’ o’r Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Ionawr – Mawrth 2012 (Chwarter 4, 2011-12).

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Parhau i gynyddu gwnaeth cyfradd gyfunol ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gwastraff trefol awdurdodau lleol, i 48 y cant ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym Mawrth 2012, yn seiliedig ar ddata dros dro, o’i gymharu â 44 y cant ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym Mawrth 2011.
  • Parhau i gynyddu bob chwarter wnaeth y ganran o wastraff trefol awdurdodau sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu’i gompostio yng Nghymru, gan gyrraedd uchafbwynt o 48 y cant yn y cyfnod Ionawr – Mawrth 2012.
  • Mae cyfanswm y gwastraff trefol yr awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru wedi gostwng yn gyffredinol ac mae’r nifer o dunelli yn 7 y cant yn is nag ar gyfer yr un chwarter yn 2011.
  • Mae gwastraff gweddilliol cartrefi a gynhyrchir y pen yng Nghymru wedi parhau i ostwng, gan ddisgyn o 65 cilogram y pen rhwng Ionawr – Mawrth 2011  i  56 cilogram y pen rhwng Ionawr – Mawrth 2012

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')