Skip to content

Agweddau tuag at yr Amgylchedd yng Nghymru: Canlyniadau o’r Arolwg Byw yng Nghymru 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ynghylch agweddau tuag at yr amgylchedd a luniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru eu rhyddhau ar 4 Chwefror 2009 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r Ystadegau ynghylch Agweddau tuag at yr Amgylchedd yn cynnwys data am Gymru yn 2007. Daw’r ystadegau o’r arolwg Byw yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2007, sef arolwg blynyddol o aelwydydd yng Nghymru.

Y pwyntiau allweddol sy’n deillio o’r bwletin yw:

  • Cynyddodd canran yr aelwydydd a wnaeth ymgymryd ag o leiaf un gweithgaredd amgylcheddol yn raddol o 93 y cant yn 2005 i 96 y cant yn 2007.
  • Roedd aelwydydd â Pherson Cyswllt y Cartref hŷn neu ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod wedi ymgymryd â gweithgareddau amgylcheddol yn 2007.
  • Roedd aelwydydd a oedd yn byw mewn fflat neu mewn ardal fwy dwys ei phoblogaeth yn llai tebygol o fod wedi ymgymryd â gweithgareddau amgylcheddol yn 2007.
  • Roedd canran yr aelwydydd a oedd yn ailgylchu papur, gwydr, plastigau neu ganiau, gan ddefnyddio gwasanaeth casglu’r Awdurdod Lleol a/neu ganolfan ailgylchu wedi cynyddu rhwng 2006 a 2007.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 6399
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd