Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol, Mai 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 16 Mai 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o nifer o ffynonellau ac mae'n ymdrin â nifer o gyfnodau. Mae'r bwletin hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 18 Ebrill2012.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Mawrth 2012 yn dangos:

  • Bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 - 64 oed yng Nghymru yn 68.1 y cant, lleihad o 0.4 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 70.5 y cant, lleihad o 0.2 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 9.0 y cant o’r rheini sydd yn economaidd weithgar, cynnydd  1.3 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Ar gyfer y DU cyfan, roedd yn 8.2 y cant, cynnydd o 0.5 pwynt y canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Roedd cyfradd yr anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 oed yng Nghymru yn 25.0 y cant, lleihad 0.6 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 23.0 y cant, lleihad o 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn gynt.

Roedd canran y rheini yng Nghymru a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 5.5 y cant o’r gweithlu yng Ebrill 2012, cynnydd o 0.6 pwynt canran ar fis Ebrill 2011 (cyfradd y DU yn 4.9 y cant, cynnydd o 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn cynt).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Ystadegau Farchnad Lafur Data misol Rhanbarthol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

20 Mehefin 2012