Skip to content

Data ar Gyfer yr Ardaloedd a Nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru, Diweddariad 2007

Dolenni perthnasol

Data ar gyfer yr ardaloedd a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cyflwyno adnodd data ar-lein manwl sydd wedi'i lunio ar gyfer yr ardaloedd a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cyflwyno adnodd data ar-lein manwl sydd wedi'i lunio ar gyfer yr ardaloedd a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru.

Mae'r Cynllun Gofodol yn seiliedig ar set o themâu tywys sy'n gymwys ledled Cymru.  Fodd bynnag, ceir cydnabyddiaeth bod gwahaniaethau o ran sut bydd canlyniadau'n cael eu cyflawni mewn gwahanol rannau o Gymru, ac felly mae chwe ardal benodol yng Nghymru wedi'u nodi yn y cynllun.  Mae'r adnodd data ar gael fel set o daenlenni thematig ar gyfer pob un o'r ardaloedd hyn, ynghyd â thaenlen ar gyfer pob thema, sy'n dangos yr holl ardaloedd ochr wrth ochr.

Mae'r adnodd data yn cwmpasu ystod eang o eitemau data, a gwelir detholiad bach o'r pwyntiau allweddol isod.

  • Ers 1981, mae'r twf cryfaf yn y boblogaeth wedi digwydd yn y Canolbarth, y Gogledd-ddwyrain a Hafan Sir Benfro.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth yn 2006 ar eu huchaf yn y Gogledd-ddwyrain, ac ar eu hisaf ym Mae Abertawe ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn y De-ddwyrain.
  • Ym mlwyddyn academaidd 2006-07, roedd canran uchaf y disgyblion oedd yn ennill 5 gradd 5 A* i C yn eu TGAU yn y Canolbarth.
  • Ym mis Medi 2006, prin oedd y gwahaniaeth yn nifer y meddygon teulu y pen, gyda chyfraddau ychydig yn uwch mewn ardaloedd mwy gwledig.
  • Roedd y lefelau glaw dyddiol ar gyfartaledd ar eu huchaf yn y Gogledd-orllewin, yn 2006 ac yn hanesyddol.

Cyswllt

Ffôn: 029 2080 1238
E-bost:  adam.al-nuaimi@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd