Skip to content

Peilot 2009-10 ay gyfer Arlowg Cenedlaethol: Dadansoddiad Pellach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd Bwletin Ystadegol sy’n cyflwyno ystadegau diweddaraf cynllun peilot 2009-10 ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 24 Chwefror, 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd rhai o ganlyniadau cychwynnol cynllun peilot 2009-10 ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2010, ond ceir gwybodaeth fanylach yn y bwletin hwn. Un o nodau allweddol cynhyrchu’r bwletin hwn yw annog defnydd llawn o ddata’r arolwg gan eraill. Bydd set data llawn yr arolwg, ynghyd â'r dogfennau ategol technegol, ar gael drwy wefan Archif Ddata’r DU yn fuan.

Mae'r bwletin hwn yn cynnwys detholiad o'r canlyniadau sydd ar gael ar yr amrywiaeth eang o bynciau mae’r arolwg yn cwmpasu. Roedd yr arolwg yn cynnwys y pynciau canlynol:

Llywodraeth Cynulliad Cymru:

  • lles a boddhad bywyd
  • ymrwymiadau ariannol
  • safon llety
  • cymdogaeth ac ardal leol
  • amgylchedd
  • gwirfoddoli
  • gwahaniaethu

Er mwyn helpu i ddadansoddi'r canlyniadau ar y pynciau hyn, gofynnwyd cwestiynau hefyd ar ddeiliadaeth, oed, rhyw, ethnigrwydd, crefydd, cyfansoddiad y cartref, incwm a chyflogaeth.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Archif Ddata’r DU (Saesneg yn unig).

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3035
E-bost: surveys@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd