Skip to content

Data ar Gyfer Ardaloedd Cynllun Gofodol Cymru, Diweddariad 2010

Dolenni perthnasol

Sut y mae ffiniau ardaloedd y Cynllun Gofodol wedi cael eu diffinio at ddibenion data.
Data ar gyfer yr ardaloedd a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am ardaloedd Cynllun Gofodol Cymru, a gasglwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 14 Rhagfyr 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin ystadegol hwn yn rhoi proffil ar wahân ar gyfer pob un o chwe ardal Cynllun Gofodol Cymru, gan grynhoi nodweddion allweddol pob ardal o safbwynt ystadegol.

Caiff y bwletin ei lunio ar sail adnodd data ehangach Cynllun Gofodol Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf yn hwyr yn 2007), sydd wedi'i ddatblygu i gynnwys diweddariadau i ddata cyfredol yn ogystal ag eitemau newydd o ddata.  Bydd yr adnodd diweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru o 14 Rhagfyr 2010 ymlaen. Bydd yn cynnwys cyfres o daenlenni data ar gyfer pob un o'r chwe ardal yn dangos themâu penodol , ynghyd â thaenlen ar gyfer pob thema yn dangos y chwe ardal ochr yn ochr.
Mae'r proffiliau ystadegol a'r adnodd data yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau o ddata.  Dyma ddetholiad byr iawn o bwyntiau o'r proffiliau ystadegol unigol:

  • Yn 2009, roedd Gogledd Orllewin Cymru yn y gyfran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd ymhlith holl ardaloedd y Cynllun Gofodol yng Nghymru yn 21.9% (Cymru 18.3%).
  • Roedd y gyfradd cyflogaeth ar draws Cymru ar ei uchaf yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru yn 2009, gyda 71.7% o'r boblogaeth 16 i 64 oed mewn cyflogaeth (Cymru 66.6%).
  • Canol Cymru oedd â'r ganran uchaf o oedolion sy'n bodloni canllawiau ymarfer corfforol ar draws Cymru yn 2008-2009, ar 36% (Cymru 29%).
  • Yn Sir Benfro Yr Hafan oedd y prisiau tai uchaf yng Nghymru yn 2009 yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd , ymhlith yr holl ardaloedd y Cynllun Gofodol yng Nghymru, ar ychydig dros £ 176,000 (Cymru £151,000).
  • Bae Abertawe oedd ar ganran uchaf o’i boblogaeth a gafodd eu trin gan ddeintydd y GIG yn y ddwy flynedd i 31 Mawrth 2010, sef 61% (55% ar gyfer Gymru), ond hefyd y canran uchaf o oedolion â llai na 21 o ddannedd neu â dannedd gosod yn bennaf yn 2008-2009, sef 29% (27% ar gyfer Cymru).
  • Yn 2009, yn Ne-ddwyrain Cymru y cafwyd y nifer isaf o ddamweiniau ffordd a hysbyswyd i’r heddlu am bob 10,000 person yng Nghymru, gyda 20.4 (Cymru 23.8).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.con@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf

Rhagfyr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')