Skip to content

Adroddiad Cyfiawnder Cymdeithasol 2005 – Dangosyddion Ystadegol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r adroddiad yn cynnwys data am economeg, iechyd, addysg, tai a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i roi gwybodaeth reolaidd am yr hyn y mae’n ei gyflawni o ran mynd i’r afael â thlodi ac anfantais gymdeithasol. Adroddiad Cyfiawnder Cymdeithasol 2005 yw’r pumed o’r Adroddiadau Blynyddol hyn ac mae’n rhoi darlun cynhwysfawr o’r hyn sy’n cael ei wneud yn y Cynulliad i ddelio â’r materion hyn. Mae’r Adroddiad yn cynnwys cyfres o ddangosyddion ystadegol lefel uchel (Adran 4 o’r Adroddiad) sy’n rhoi’r cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ar gyfer strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Bwletin Ystadegol hwn, "Adroddiad Cyfiawnder Cymdeithasol 2005 – Dangosyddion Ystadegol", yn dod â’r dangosyddion ystadegol hyn at ei gilydd mewn un ddogfen ac yn rhoi ychydig o wybodaeth am bob un.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 6960
E-bost: stats.housing@Wales.gsi.gov.uk