Skip to content

Ynghylch arolygon

Mae arolygon yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi drwy ddarganfod materion, siapio'r camau a gymerwn, a monitro newidiadau dros amser.

Mae'n hanfodol i Lywodraeth Cymru i gynnal arolygon o'r cyhoedd, busnesau a sefydliadau cyhoeddus eraill. Yn aml nid oes ffordd arall ymarferol, fforddiadwy, a dibynadwy o gasglu’r wybodaeth hon.

Fframwaith Strategol ar gyfer Arolygon Llywodraeth Cymru 2012-2017

Ym mis Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Strategol ar gyfer Arolygon Llywodraeth Cymru 2012-2017. Bydd y strategaeth yn ein helpu i wella'r ffordd yr ydym yn cynnal arolygon ac yn rheoli ein prosesau arolygu ac yn ein helpu i sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen yn cael ei gasglu yn y ffordd gorau a fwyaf cost-effeithiol. Mae'r strategaeth arolwg ar gael i'w lawr lwytho ar y ddolen isod.

PDF Document Fframwaith Strategol ar gyfer Arolygon Llywodraeth Cymru 2012-2017

Cymeradwyo arolygon 

Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr nad yw'r baich o gwblhau arolygon yn ormodol ar gyfer busnesau, sefydliadau na aelodau o'r cyhoedd. Er mwyn sicrhau hyn, cyn fod arolwg yn cael mynd yn ei flaen rydym yn ystyried y baich o’i gwblhau yn erbyn y manteision o gael y canlyniadau. Rydym yn gwneud yn siŵr bod y ffordd y mae'r arolwg yn cael ei gynllunio a'i gynnal yn cadw’r baich mor isel â phosibl.

Dylai pob arolwg a gynhaliwyd gan (neu ar ran) Llywodraeth Cymru neu rhai sefydliadau sy'n gysylltiedig â’r Llywodraeth, megis Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fynd drwy'r Broses o Gynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo

Os ydych yn bwriadu cynnal arolwg ac yn ansicr a oes angen cymeradwyaeth arolwg arno chi darllenwch y canllawiau isod.

PDF Document Cymeradwyo arolygon: Canllawiau (Saesneg yn unig)  

Os ydych yn gwybod bod angen cymeradwyaeth arolwg arno chi, cwblhewch y ffurflen isod, a'i hanfon at  survey-advice@wales.gsi.gov.uk.

Word document Cymeradwyaeth arolygon ystadegol: Ffurflen 

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth am rôl y Gwasanaeth Llywodraeth Cymru o Gynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo ewch i dudalen we y Swyddfa Ystadegau Gwladol  ar yr Uned Rheoli Arolygon (Saesneg yn unig)

I gael gwybodaeth am yr arolygon a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac i gael cyngor am gynnal arolygon neu’r broses gymeradwyo, cysylltwch â  survey-advice@cymru.gsi.gov.uk.