Skip to content

Sut yr ydym yn lledaenu'n data - ein hallbynnau

Mae ein gwybodaeth ar gael trwy gyhoeddiadau rheolaidd ar feysydd pwnc unigol.

Datganiad Ystadegol Cyntaf

Defnyddir y datganiad hwn i gyhoeddi data o set ddata newydd am y tro cyntaf - er enghraifft, data o gasgliad chwarterol neu flynyddol. Nid yw'n angenrheidiol mai’r Gyfarwyddiaeth Ystadegau sydd wedi casglu'r data (os nad hwy sydd wedi casglu’r data, dylid hysbysu'r cyhoeddwr gwreiddiol). Nid ffordd o gael sylw’r cyfryngau yn unig yw cyhoeddi Datganiad Ystadegol.

Bwletinau Ystadegol

Fe’u defnyddir i gyflwyno dadansoddiadau manylach, dilynol o setiau data sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi, un ai mewn Datganiad neu gan rywun arall – er enghraifft, gan adran neu asiantaeth arall.  Trafodir bwletinau sy’n haeddu cael eu dosbarthu’n ehangach gyda Swyddfa’r Wasg yn ogystal â sut i fynd ati i’w dosbarthu’n ehangach.

Penawdau Ystadegau Cymru

Fe’u defnyddir er mwyn cael mynediad at dablau cefndir neu dablau ychwanegol, mapiau neu ddata a gyhoeddwyd y tu allan i'r Gyfarwyddiaeth Ystadegau yn ogystal â thu allan i’r Datganiad neu’r Bwletin ei hun. Gellir defnyddio Pennawd Ystadegau Cymru ar ei ben ei hun i dynnu sylw at ystadegau ar bynciau cyfredol.

Erthyglau Ystadegol

Ar y cyfan, mae erthyglau'n gysylltiedig â dadansoddiadau untro lle nad oes unrhyw ddiweddariadau wedi'u cynllunio, o leiaf, nid yn y tymor byr.

Tablau StatsWales

Fel arfer, cyhoeddir tablau ar y Rhyngrwyd yr un amser a chaiff Pennawd, Datganiad neu Fwletin ei gyhoeddi ond weithiau, cânt eu cyhoeddi ar wahân (e.e. yn ystod datblygu StatsWales, diweddariadau cyffredinol).

Dogfennau cyfeirio

Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys cynlluniau, cyfarwyddiadau i ffynonellau a phapurau methodoleg.