Skip to content

Ynghylch ystadegau

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun yn cyflwyno'r wybodaeth yr ydym ni'n ei chyhoeddi a'n cynlluniau datblygu.
Mae’r adroddiad yn amlinellu rhai o’r prif bethau a gyflawnwyd gennym yn ystod y flwyddyn ac yn tynnu sylw at y cynhyrchion a gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Mae ystadegau dibynadwy yn sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar gyfer cynnal gwaith ymchwil ac ar gyfer cefnogi dadleuon. Maent yn helpu'r llywodraeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r gymuned ehangach i weithio'n effeithiol er lles y gymdeithas.

Mae'r rhan fwyaf o ystadegau Llywodraeth Cymru yn cael eu cynhyrchu gan ystadegwyr yn gweithio yn Gwybodaeth a Gwasanaethau Dadansoddol. Maent yn gweithio yn unol â safonau proffesiynol sydd yno i gynnal ymddiriedaeth a sicrhau:

  • Integriti – rhoi buddiannau'r cyhoedd o flaen buddiannau sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol.
  • Gonestrwydd– bod yn onest ac yn agored ynghylch yr ystadegau a'u dehongliad.
  • Gwrthrychedd– defnyddio dulliau gwyddonol i gasglu ystadegau a seilio cyngor ystadegol ar ddadansoddiad trylwyr o'r dystiolaeth.
  • Didueddrwydd– gweithredu'n ddieithriad yn ôl rhinweddau'r dystiolaeth ystadegol, gan wasanaethau pob agwedd ar fudd y cyhoedd gystal â'i gilydd.