Skip to content

Trechu Tlodi

Dolenni perthnasol

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn amlygu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi a pham nad oes yr un flaenoriaeth yn uwch i’w lywodraeth.
Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Mae mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ymysg plant a phobl ifanc yn hanfodol er mwyn rhoi cyfle iddynt wneud y mwyaf o'u bywydau.
Yn dilyn adlinio ym mis Ebrill 2012, Rhaglen â Ffocws Cymunedol yw Cymunedau yn Gyntaf sy’n cefnogi agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.
Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Mae wedi’i hanelu at deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed ac sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella'r cymorth i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd difreintiedig, drwy weithio ar strwythur a dyluniad ymyriadau ataliol a chynnar a'r modd y cânt eu darparu.
Graffiti

Nod ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yw ymdrin ag effeithiau tlodi yn awr ac atal tlodi yn y dyfodol.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfiawnder cymdeithasol yn golygu ei bod yn hanfodol bwysig, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ein bod yn parhau i fynd i'r afael â thlodi. Byddwn yn gwneud hynny drwy roi blaenoriaeth i anghenion y bobl dlotaf a gwarchod y rheini sydd fwyaf agored i dlodi ac allgáu.

Nod y Cynllun Gweithredu yw sicrhau gwell canlyniadau i bawb drwy ddewis yr opsiynau sy'n gweithio orau yn y tymor hir.

Mae'n canolbwyntio ar dri amcan:

  • Atal tlodi
  • Helpu pobl i gael gwaith
  • Gwella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi