Skip to content

Cefndir ag egwyddorion

Dolenni perthnasol

Cyhoeddwyd y Biliau canlynol gan Brif Weinidog Cymru i’w cyflwyno yn ystod gweddill y rhaglen ddeddfwriaethol 5 mlynedd.
Diweddariadau i’r polisi ynghylch rhoi pwyslais ar ddatblygu cynaliadwy a datblygu economaidd.
Mae'r astudiaeth ymchwil yn edrych ar yr hyn sy’n rhwystro gwneud penderfyniadau cynllunio yn amserol ac effeithlon ac yn nodi arferion da.
Yn gwerthuso’r polisi cynllunio ar gyfer datblygu’r economi ac yn gwneud argymhellion ar gyfer llunio polisïau a chanllawiau cynllunio.
Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddwyd adroddiad ar pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Mae Datganiad Deddfwriaethol 2011-16 yn cynnwys ymrwymiad i gyfuno deddfwriaeth gynllunio gyfredol i'w gwneud yn fwy tryloyw a hygyrch.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio i ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru. Ers datganoli, mae polisïau cenedlaethol cyfredol wedi'u rhoi ar waith. Mae'r polisïau hyn yn briodol i anghenion Cymru, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau datblygu cynaliadwy, adfywio economaidd a chartrefi fforddiadwy.

Er mwyn helpu i gyflawni'r gwaith hwn yn lleol, mae system cynllun datblygu lleol newydd wedi'i chyflwyno. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i wella'r broses o wneud ceisiadau cynllunio.

Trefniadau sefydliadol

Mae’r trefniadau sefydliadol ar gyfer rhoi'r system gynllunio ar waith wedi parhau'n ddigyfnewid i raddau helaeth ers 1947. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am fframwaith y system gynllunio, sy'n cynnwys deddfwriaeth gynradd ac eilaidd. Mae hefyd yn gyfrifol am lunio polisïau a chanllawiau cenedlaethol ym maes cynllunio, yn ogystal â pharatoi Cynllun Gofodol Cymru yn unol â Deddf Cynllunio 2004.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd bwerau wrth gefn i ymyrryd yn y broses o lunio cynlluniau datblygu lleol a phenderfynu ar geisiadau cynllunio, ac mae'n cyflawni rôl ddyfarnu, yn bennaf drwy Arolygiaeth Cynllunio Cymru, lle y gall datblygwyr apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd cynllunio.

Mae awdurdodau cynllunio lleol, sy'n cynnwys 22 o awdurdodau unedol a thri pharc cenedlaethol, yn gyfrifol am roi'r system gynllunio ar waith yn lleol. Ymhlith eu prif ddyletswyddau mae paratoi cynlluniau datblygu lleol a gweithredu'r system rheoli datblygu, gan benderfynu ar geisiadau cynllunio a gorfodi rheolaeth gynllunio. Ymhlith y cyfranogwyr allweddol eraill mae cynghorau tref a chymuned ac ymgyngoreion statudol.

Er bod y trefniadau sefydliadol ar gyfer rhoi'r system gynllunio ar waith wedi parhau'n ddigyfnewid i raddau helaeth ers 1947, mae'n ofynnol i'r system gyflawni ystod cynyddol amrywiol o amcanion polisi a all wrthdaro â'i gilydd neu arwain at faterion technegol cymhleth.

Ymchwiliad i bolisïau cynllunio

Cynhaliodd cyn Bwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol Ymchwiliad i Bolisïau Cynllunio yng Nghymru yn ystod 2010/11. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth o'r pwysau a wynebir gan swyddogion cynllunio lleol wrth geisio ateb y galwadau cynyddol arnynt, gan gynnwys y galw am fwy o arbenigedd technegol.

Ewch: tudalen Pwyllgor Cynaliadwyedd ar y wefan Cynulliad Cenedlaethol (dolen allanol)

Mae Adolygiad Simpson, Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ble?, wedi rhoi ystyriaeth gychwynnol i rolau a chyfrifoldebau yn y system gynllunio yn y dyfodol.  Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i adolygu'r broses o ddarparu gwasanaethau cynllunio mewn dynodiadau tirwedd statudol (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol).

Datganiad Deddfwriaethol 2011-16

Mae Datganiad Deddfwriaethol 2011-16 yn cynnwys ymrwymiad i gyfuno deddfwriaeth gynllunio gyfredol i'w gwneud yn fwy tryloyw a hygyrch. Bydd y Bil Cynllunio hefyd yn rhoi'r cyfle i ailystyried rolau a chyfrifoldebau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym system gynllunio a all gyflawni'r canlyniadau angenrheidiol yng Nghymru. Caiff Papur Gwyn yn nodi ein cynigion ei gyhoeddi yn ystod 2013. Yna caiff Bil Cynllunio ei gyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad yn 2015/16.

Egwyddorion

Datblygu Cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol Llywodraeth Cymru.  Mae dull rheoli datblygu a arweinir gan gynllun yn hanfodol i sicrhau bod datblygiadau newydd yn rhai cynaliadwy. Dylid gwneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau unigol yn unol â'r cynllun lle y bo'n gyfredol. Lle nad oes unrhyw gynllun ar waith neu lle bo'r cynllun wedi dyddio, dylid gwneud penderfyniadau yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.