Skip to content

Gwneud Cais Cynllunio

Dolenni perthnasol

Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.
Deg cwestiwn cyffredin am ganiatâd cynllunio, cynlluniau datblygu, gwrthwynebu caniatâd cynllunio ac asesu’r effaith amgylcheddol.

Beth yw caniatâd cynllunio?

Mae angen Caniatâd Cynllunio os ydych chi am wneud gwaith adeiladu arbennig. Caiff ei roi (gyda rhai amodau o bosibl) neu ei wrthod. Gellir rhoi caniatâd ar gyfer:

  • adeiladu strwythurau newydd;
  • newid neu ehangu strwythurau;
  • newid defnydd tir neu adeiladu arno; neu 
  • ar gyfer chwarela neu fwyngloddio.

Eich cyfrifoldeb chi yw gofyn neu beidio â gofyn am ganiatâd cynllunio. Dylid rhoi caniatâd cynllunio (os oes angen) cyn i unrhyw waith ddechrau.

Mae caniatâd cynllunio yn wahanol i ganiatâd i ddefnyddio tir neu eiddo. Byddai angen i chi gael caniatâd gan berchennog y tir neu’r eiddo i’w ddefnyddio neu’i newid. Os na chewch chi ganiatâd, gallech fod yn atebol am dresbasu neu ddifrod troseddol a gellid eich erlyn dan gyfraith sifil.

Pwy sy’n rhoi caniatâd cynllunio?

Eich Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am ystyried ceisiadau cynllunio. Mae yna 25 o awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y 22 Cyngor Sir a Bwrdeistref Sirol a phob un o’r 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol. Mae pob un o’r awdurdodau cynllunio lleol yn gyfrifol am benderfynu ar bron pob un o’r ceisiadau cynllunio yn eu hardal.

Yr eithriadau yw’r penderfyniadau hynny a wneir yn uniongyrchol gan y Gweinidog, a cheisiadau “ynni”. Erbyn hyn, mae ceisiadau i gynhyrchu ynni sydd dros 50 megawat yn cael eu penderfynu gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith newydd. Nid yw datblygiadau ynni mor fawr â hyn wedi’u datganoli i Llywodraeth Cymru.

Ewch i: Hafan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Pam mae angen i mi gael caniatâd cynllunio?

Mae cynllunio yn ymwneud â’r ffordd rydyn ni’n cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol ein dinasoedd, trefi a chefn gwlad. Eich awdurdod cynllunio lleol sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylai datblygiad - unrhyw beth o estyniad ar dŷ i ganolfan siopa newydd - fynd yn ei flaen. Er enghraifft, fel arfer ni fyddai’n syniad da mwy na thebyg gwneud cais am glwb nos neu ddisgo drws nesaf i gartref ymddeol.

Fodd bynnag, gall cynllunio gofalus a dyfeisgar ynghyd â dylunio a thirlunio sensitif wneud rhai datblygiadau’n dderbyniol – datblygiadau a fydd cynt wedi cael eu hystyried yn anaddas. Dyma pam y caiff ceisiadau eu pwyso a’u mesur i’r fath raddau. Mae angen y system gynllunio i reoli datblygiad yn eich ardal.

A oes angen caniatâd cynllunio arnaf bob amser ar gyfer datblygiad?

Nac oes. Gelir gwneud rhai datblygiadau heb ganiatâd cynllunio. Gelwir hyn yn “ddatblygiad a ganiateir”. Fodd bynnag, gellir diddymu rhai hawliau datblygiad a ganiateir neu bob un ohonynt trwy ddefnyddio “Cyfarwyddyd Erthygl 4”. Mae hwn yn cael ei roi pan mae angen rheolaeth arbennig ar gyfer datblygiad mewn ardal o bwysigrwydd arbennig megis ardal gadwraeth.

Fel arfer, mae estyniadau o faint arbennig yn ddatblygiadau a ganiateir, a bennir fel rheol mewn metrau ciwbig a chanran o’r adeilad gwreiddiol. Fodd bynnag, bydd unrhyw waith ar yr eiddo a wnaed ers ei adeiladu yn cyfrif tuag at y cyfaint hwn, gan gynnwys unrhyw waith a wnaed cyn i chi symud i mewn. Dylech ofyn am gyngor gan eich awdurdod cynllunio lleol cyn ystyried gwneud gwaith ychwanegol, er mwyn bod yn siŵr.

Beth yw’r cynllun datblygu?

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref yn mynnu bod pob awdurdod cynllunio lleol yn paratoi cynllun datblygu ar gyfer eu hardaloedd. Er bod strwythur a chynnwys cynlluniau wedi’u diwygio, mae’r egwyddor sylfaenol yr un fath.

Dylai’r cynllun amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer yr ardal a bod yn destun asesiad amgylcheddol.

Mae asesiad amgylcheddol yn broses sy’n sicrhau bod effeithiau amgylcheddol sylweddol sy’n codi o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni’n cael eu:

  • nodi;
  • asesu;
  • lleihau;
  • cyfathrebu i benderfynwyr; a
  • monitro.

Mae hefyd yn gyfle i chi ddweud eich dweud.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys polisïau penodol lleol ar gyfer y defnydd o dir. Mae rhai ardaloedd wedi’u dynodi ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol. Mae polisïau ar sut y dylai’r defnydd a’r adeiladau newydd edrych, weithio ac asio â’r amgylchedd yn cael eu hamlinellu yn y cynllun.

Pan mae awdurdod cynllunio lleol yn derbyn cais cynllunio, yr elfen gyntaf y dylai ystyried yw a fyddai’r datblygiad yn dilyn y cynllun datblygu. Os felly, yna fel arfer byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo - er y gall ystyriaethau eraill, megis sylwadau gan y cyhoedd ar faterion cynllunio achosi i’r awdurdod benderfynu fel arall.  

Dylech allu gweld cynllun datblygu eich awdurdod cynllunio lleol ar wefan yr awdurdod.

Rwy’n gwrthwynebu cynnig. Beth ddylwn i ei wneud?

Pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn derbyn cais cynllunio, mae'r gyfraith yn mynnu ei fod yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i’r rhai a all gael eu heffeithio leisio’u barn. Mae’r cyhoeddusrwydd yn aml yn cynnwys:

  • rhoi hysbysiad mewn papur newydd lleol;
  • rhoi hysbysiad ar y safle y gall y cyhoedd ei weld; a 
  • hysbysiad cymdogion i ddeiliaid a pherchnogion eiddo sydd gerllaw.

Gwnewch nodyn o’ch pryderon a phwyntiau ategol a’u hanfon i Adran Gynllunio’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Fel arfer mae Swyddog Achos neu Grŵp Ardal wedi’i neilltuo i ymdrin â’r cais, ond os na allwch chi ddod o hyd i’r unigolyn hwnnw, anfonwch y llythyr i’r Adran Gynllunio. Ceisiwch gynnwys y Cyfeirnod Cynllunio a lleoliad yr eiddo/datblygiad bob amser. Erbyn hyn mae rhai awdurdodau yn derbyn sylwadau ar-lein trwy dudalennau cynllunio gwefan yr Awdurdod.

Nid yw pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o ostyngiad i werth eich eiddo oherwydd datblygiad posibl gerllaw yn rhywbeth y gall yr awdurdod cynllunio lleol ei ystyried wrth benderfynu ar y cais.

Faint o amser ddylai hi gymryd i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gais a maint yr awdurdod cynllunio. Mae deddfwriaeth cynllunio yn mynnu bod awdurdodau lleol yn penderfynu ar y ceisiadau cynllunio hynny sydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o fewn 13 wythnos, a’r holl geisiadau eraill o fewn 8 wythnos.

Bydd methu â phenderfynu ar gais o fewn yr amserlen benodol yn golygu y gall yr ymgeisydd apelio i’r Arolygiaeth Gynllunio ar sail methu penderfynu.  Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol hysbysu’r ymgeiswyr o’r hawliau hyn.

Awdurdod gweithredol annibynnol sy’n penderfynu ar apelau cynllunio ar ran Gweinidogion Cymru yw’r Arolygiaeth Gynllunio.

Ewch i: Gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Beth yw cost caniatâd cynllunio?

Mae’r ffioedd cynllunio cyfredol ar y Porth Cynllunio.

Mae gwefan y Porth Cynllunio yn cynnwys gwybodaeth am:

  • reoliadau cynllunio ac adeiladu;
  • gwneud cais am ganiatâd cynllunio;
  • datblygiadau sy’n lleol i chi;
  • apelau yn erbyn penderfyniadau.

Ewch i: Gwefan y Porth Cynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Beth yw Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) – a sut fydda i’n gwybod bod ei angen?

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yw’r EIA. Mae’n asesu sut fydd y datblygiad sydd mewn golwg yn effeithio ar yr amgylchedd cyfagos a’r amgylchedd ehangach yn gyffredinol. Mae’n ofynnol ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol am ragor o wybodaeth.

Sut alla i gael cymorth i gyflwyno neu ymateb i gais cynllunio?

Gallwch gyflwyno cais cynllunio ar-lein ar y Porth Cynllunio yn. Mae’r Porth wedi’i lunio fel mai dim ond y wybodaeth berthnasol ar gyfer y math o gais sydd gennych mewn golwg sydd angen i chi ei rhoi.

Ewch i: Gwefan y Porth Cynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Wrth ymateb i gais cynllunio, gallwch ysgrifennu i’r awdurdod cynllunio lleol i fynegi eich barn. Mae rhai awdurdodau cynllunio lleol yn caniatáu aelodau’r cyhoedd i roi eu sylwadau’n uniongyrchol i’r Pwyllgor Cynllunio. Nid oes hawl gyfreithiol i allu gwneud hyn, felly dylid holi beth yw’r trefniadau lleol.

Elusen gofrestredig yw Cymorth Cynllunio Cymru sy’n darparu cymorth a chyngor i aelodau’r gymuned sydd angen cymorth i ddefnyddio’r system gynllunio.

Ewch i: Gwefan Cymorth Cynllunio Cymru (dolen allanol)