Skip to content

Y Ffurflen Gais Safonol (‘1APP’)

Dolenni perthnasol

Canllawiau ar ddefnyddio’r ffurflen cais cynllunio safonol a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilysu’r cais
Un deg un o gwestiynau cyffredin ynghylch defnyddio’r Ffurflen Gais Safonol (‘1APP’) wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio a chaniatadau cysylltiedig eraill.

Beth yw’r ‘1APP’?

‘1APP’ yw enw’r Ffurflen Gais Safonol. Rhaid defnyddio’r ffurflen hon i wneud ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chaniatadau cysylltiedig eraill yng Nghymru.

Mae’r ffurflen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd angen ei gyflwyno i ategu cais.

Rhaid defnyddio’r Ffurflen Gais Safonol i wneud cais i’ch awdurdod cynllunio lleol, boed ar ffurf electronig neu ar bapur.

Oes yn rhaid i’m cais gael ei gyflwyno ar lein?

Nac oes. Gallwch gyflwyno’ch cais ar bapur, er ein bod yn annog cyflwyno ceisiadau’n electronig, lle bynnag y bo modd.

Os ydych chi’n cyflwyno’ch cais ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno 3 chopi ychwanegol o’r holl ffurflenni, cynlluniau ac unrhyw wybodaeth arall (4 i gyd).

Pam fod angen Ffurflen Gais Safonol?

Rydym wedi diwygio’r ddeddfwriaeth sy’n gosod y drefn ar gyfer delio â gwahanol fathau o geisiadau. O ganlyniad i’r newidiadau rhaid defnyddio’r Ffurflen Gais Safonol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau.

Cynlluniwyd y ffurflen er mwyn i’r wybodaeth a gyflwynir ar gyfer gwahanol fathau o geisiadau gydymffurfio â gofynion cenedlaethol. Bydd yr wybodaeth hefyd yn gyson ledled pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

Dylai defnydd o’r ffurflen helpu i gyflymu’r broses o ‘ddilysu’ ceisiadau, gan y bydd yn rhaid cyflwyno’r holl wybodaeth sydd ei angen i ystyried yr argymhellion gyda’r cais yn y lle cyntaf. Ystyr cais dilys yw cais sy’n gyfreithiol dderbyniol ar gyfer ei ystyried.

Oes rhaid defnyddio Ffurflen Gais Safonol ar gyfer bob math o gais?

Rhaid defnyddio’r Ffurflen Gais Safonol ar gyfer:

  • Caniatâd cynllunio amlinellol a llawn (gan gynnwys Datblygiadau gan Ddeiliaid Tai);
  • Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl;
  • Diddymu neu amrywio amodau;
  • Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon;
  • Caniatâd dan Orchmynion Cadw Coed;
  • Caniatâd Hysbyseb;
  • Caniatâd Adeilad Rhestredig;
  • Caniatâd Ardal Gadwraeth.

Nid yw’r ffurflen hon yn angenrheidiol ar gyfer:

  • Ceisiadau datblygu gwaith mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion mwynau. Dylid gwneud y ceisiadau hyn ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio lleol;
  • Ceisiadau i benderfynu a oes angen ‘cymeradwyaeth o flaen llaw’ gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer agweddau ar ddatblygu. Gellir eu gwneud gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais Safonol a’u cyflwyno’n electronig, ond nid oes rheidrwydd i wneud hyn.  

Ble fedra i gael y ffurflen newydd?

Gellir cyrraedd yn uniongyrchol at y Ffurflen Gais Safonol drwy wefan Y Porth Cynllunio.

Wrth ddefnyddio’r Porth Cynllunio, dylech sicrhau eich bod yn edrych ar fersiwn Cymru o’r wefan.

Ewch i: gwefan Y Porth Cynllunio (dolen allanol)

Mae copïau caled o’r ffurflen ar gael gan eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd angen i chi egluro pa fath o gais yr ydych am ei wneud er mwyn derbyn y ffurflen gywir.

Mae’r ffurflen 1APP yn cyfeirio at ofynion cenedlaethol wedi’u gosod mewn polisi, ble fedra i ddod o hyd iddynt?

Gellir gweld y gofynion cenedlaethol sydd wedi’u gosod mewn polisi yn ein hadran ‘Polisi a chanllawiau’ ar y chwith.

Mae’r gofynion cenedlaethol ar gyfer cofrestru a dilysu ceisiadau cynllunio wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth. Ceir manylion yn ‘Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio a Chaniatadau Cysylltiedig Eraill: Canllaw i’r Ffurflen Gais Safonol (‘1APP’) a Dilysu Ceisiadau’. Mae’r ddogfen hon ar gael dan y dolenni perthnasol ar y dde.

Oes rhaid i mi gyflwyno gwybodaeth ychwanegol yn sgil y gofynion newydd?

Mae’r trefniadau newydd yn cyfuno gofynion deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol. Nid oes newid i’r swm cyffredinol o wybodaeth y bydd angen ei chyflwyno gyda’r cais.

Er mwyn cofrestru’ch cais fel un ‘dilys’, rhaid i chi ddarparu:

  • yr holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y Ffurflen Gais Safonol;
  • unrhyw asesiadau ategol ychwanegol y cyfeirir atynt yn y ffurflen neu sy’n ofynnol drwy ddeddfwriaeth;
  • unrhyw gynlluniau, lluniadau a thystysgrifau.

Bydd yr wybodaeth angenrheidiol i wneud cais ‘dilys’ yn dibynnu ar y math o ganiatâd yr ydych yn gwneud cais amdano.

Beth yw Gofynion Dilysu Lleol?

Gall eich awdurdod cynllunio lleol osod gofynion dilysu lleol ar gyfer ceisiadau ‘datblygiadau mawr’.

Ceir diffiniad o geisiadau datblygiadau mawr yn ‘Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio a Chaniatadau Cysylltiedig Eraill: Canllaw i’r Ffurflen Gais Safonol (‘1APP’) a Dilysu Ceisiadau’. Mae’r ddogfen hon ar gael dan y dolenni perthnasol ar y dde.

Rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi gofynion dilysu lleol ar y we, neu ni fydd modd eu defnyddio wrth asesu unrhyw gais cynllunio am ddatblygiad mawr.

Nid yw Erthygl 5 o Orchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu Cymru yn dod o’r Gorchymyn Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol 1995 ac nid yw yn y ‘Tabl Cyrchfannau’. Felly, o ble mae’n dod?

Mae Erthygl 5 o Orchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu (Cymru) 2012 yn nodi’r gofynion ar gyfer cais am ganiatâd cynllunio. Mae hyn yn disodli Rheoliad 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau) 1988.

Rwy’n ansicr a oes angen i mi gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, ble fedra i gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar gyflwyno gwybodaeth ychwanegol gan eich awdurdod cynllunio lleol. Gallwch ddod o hyd i’ch awdurdod cynllunio lleol drwy’r Porth Cynllunio.

Ewch i: gwefan Porth Cynllunio (dolen allanol)

Mae gen i fwy o gwestiynau. Ble fedra i gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych fwy o gwestiynau am y Ffurflen Gais Safonol a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud cais ‘dilys’, dylech gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol yn uniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i’ch awdurdod cynllunio lleol ar drwy’r Porth Cynllunio.

Ewch i: gwefan Porth Cynllunio (dolen allanol)