Skip to content

Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol

Yn achos unrhyw ddatblygiadau y mae angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, mae’r drefn o gynnal Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol yn rhan integredig o’r fframwaith presennol sydd gan yr awdurdodau lleol er mwyn rheoli datblygu. Mae dyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad (drwy’r Is-adran Gynllunio) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â gweithdrefnau Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd ar Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol.

Mater i’r awdurdodau cynllunio lleol yn y lle cyntaf yw penderfynu a oes angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ai peidio. Serch hynny, os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn gallu penderfynu ar y mater, neu os nad yw’r ymgeisydd yn cytuno â barn yr awdurdod cynllunio lleol ynghylch yr angen am Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, a phan fo awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am gyfarwyddyd ar gyfer un o’i ddatblygiadau ei hun, mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth y Cynulliad i benderfynu a oes angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ai peidio. Os daw hi’n amlwg bod angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, gall y Cynulliad hefyd ymyrryd ar unrhyw adeg cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

Os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi penderfynu ar gynnwys y datganiad amgylcheddol, mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud y penderfyniad hwnnw pan fo’r ymgeisydd yn gofyn iddi wneud hynny.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cael copïau o’r holl ddatganiadau amgylcheddol sy’n cael eu cyflwyno i’r awdurdodau cynllunio lleol. Ar ôl iddynt ddod i law, mae’r Cynulliad yn ystyried a fyddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio’n sylweddol ar un o Aelod-wladwriaethau eraill y Gymuned Ewropeaidd neu ar unrhyw wlad arall sydd wedi cymeradwyo’r Confensiwn Espoo. Pe byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol, mae’n gwahodd y wlad y byddai’r datblygiad yn effeithio arni i fod yn rhan o’r prosesau ymgynghori.

Pan fydd y cais yn dod gerbron y Cynulliad, bydd yr Is-adran Gynllunio, gyda chymorth cynghorwyr technegol eraill Llywodraeth y Cynulliad, yn sicrhau bod y datganiad amgylcheddol yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau ar Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ac, os nad ydyw, bydd yn gofyn am ragor o wybodaeth.