Skip to content

Cynlluniau personau cymwys

Cyflwynwyd y cynlluniau hyn i ganiatáu i unigolion a mentrau i hunanardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.

Gellir gwneud hyn yn hytrach na chyflwyno hysbysiad adeiladu neu ddefnyddio arolygydd cymeradwy.

Mae hunanardystio yn:

  • gwella cydymffurfiaeth â gofynion y Rheoliadau Adeiladu
  • lleihau costau i gwmnïau sy'n ymuno â chynlluniau cydnabyddedig
  • hybu hyfforddiant a chymhwysedd yn y diwydiant; a dylai
  • helpu i fynd i’r afael ag ‘adeiladwyr anghofrestredig’
  • helpu awdurdodau lleol i orfodi’r Rheoliadau.

Ers 31 Rhagfyr 2011, rydym yn awdurdodi Cynlluniau Personau Cymwys yng Nghymru.

Cyhoeddodd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) delerau awdurdodi newydd, yn cynnwys achrediad gan Wasanaeth Achredu y Deyrnas Unedig (UKAS), ar gyfer pob cynllun personau cymwys yn Lloegr ar 7 Mehefin 2012.

Rydym wedi cytuno i fabwysiadu’r un telerau yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau dilyniant, gwerth am arian a diogelwch ar gyfer y rhai sy’n rhedeg y cynlluniau, yr aelodau a’r cwsmeriaid yng Nghymru. 

Caiff y Cynlluniau Personau Cymwys eu hachredu gan Wasanaeth Achredu y Deyrnas Unedig (UKAS) i BS EN 45011 (un o’r safonau sicrwydd ansawdd). Mae UKAS yn gwirio cynlluniau i sicrhau eu bod yn cadw at y safonau angenrheidiol.

O 01 Ionawr 2012 ymlaen, dylech anfon unrhyw geisiadau newydd i gynnal cynlluniau yng Nghymru i’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad ebost isod.

Mae’n rhaid i Berson Cymwys gael ei gofrestru gyda chynllun a gymeradwywyd gan y Llywodraeth. Gallwch chwilio am Gynllun Personau Cymwys ar wefan y Competent Persons Register (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae’r Gofrestr yn cynnwys y contractwyr yn y diwydiant gwasanaethau adeiladu sydd wedi’u hasesu. Gallant hunanardystio bod eu gwaith yn bodloni’r rheoliadau adeiladu.

Cysylltu â ni

Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor neu gymorth, gallwch gysylltu â ni trwy’r:

Post:

Yr Uned Adeiladu
Cyfarwyddiaeth y Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ.

Ebost: enquiries.brconstruction@wales.gsi.gov.uk

Rhif Ffôn: 03000 628 144 / 03000 628 141