Skip to content

Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu

Dolenni perthnasol

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi cyhoeddi bod Cadeirydd newydd wedi’i benodi a fydd yn helpu Cymru yn yr ymdrech i leihau'n sylweddol allyriadau carbon ei hadeiladau.

Rydym yn gorfod ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu pan fyddwn yn cynnig newidiadau i Reoliadau Adeiladu a phrosesau cysylltiedig.

Yn y Deyrnas Unedig, ceir rheoliadau ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu. Cyn hyn, roedd y Pwyllgor Cynghori ar Reoliadau Adeiladu (BRAC) yn cynnig cyngor am newidiadau a gynigid i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Noddir BRAC gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Ar ôl datganoli Rheoliadau Adeiladu i Gymru, sefydlwyd Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) ar 01 Ionawr 2012. Bydd yn ein cynghori ar newidiadau a gynigir i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru. Mae’n dilyn Cod Ymarfer y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (CoPSAC). Mae’r Cod Ymarfer yn pennu arferion da ac yn cynnwys:

  • arferion gweithio pwyllgorau
  • hawliau a chyfrifoldebau aelodau
  • rôl y cadeirydd.
Os oes gennych gwestiynau’n ymwneud â BRACW, cysylltwch â:

Post:

Rheoliadau Adeiladu
Cyfarwyddiaeth y Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

E-bost: enquiries.brconstruction@cymru.gsi.gov.uk

Ffôn: 03000 628 141