Skip to content

Tai

Dolenni perthnasol

Cefnogi Pobl yw ein fframwaith polisi ac ariannu ar gyfer darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl fregus.
Cyngor a chymorth ar sut i arbed ynni yn y cartref.
Byngaloau
Rydym ni'n credu y dylai pawb gael cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da mewn cymuned ddiogel.

Trwy ddarparu gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel, tai addas a gwneud gwaith addasu fe all pobl hŷn aros yn fwy annibynnol am gyfnod llawer hirach. Er mwyn sicrhau hyn, mae'n rhaid i'r gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio â'i gilydd.

Bydd cysylltu'r gwasanaethau hyn â'i gilydd yn bodloni anghenion yr unigolyn a'r cartref ar yr un pryd, gan wneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael. Rydym yn cydweithio'n agos â chyrff sy'n bartneriaid i ni er mwyn darparu tai fforddiadwy o ansawdd da, a  datblygu cymunedau y bydd pobl eisiau byw ynddynt, nawr ac yn y dyfodol.

Grantiau Gwella: Beth sy'n ar gael?

  • Cymorth trwsio cartrefi i helpu pobl hŷn gyda mân atgyweiriadau er mwyn eu cadw yn eu cartrefi;
  • Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, sydd ar gael drwy brawf modd, i bobl anabl er mwyn iddynt addasu'u cartrefi;
  • help oddi wrth y Rhaglen Addasiadau Brys a gynlluniwyd i alluogi pobl i adael yr ysbyty neu ofal preswyl cyn gynted ag y bo modd.

Mae'r asiantaethau Gofal ac Thrwsio yn rhoi cyngor ar grantiau ac yn cynnig cymorth ymarferol arall ynghyd â chyngor ar welliannau. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau'r pryder o ganlyniad i waith sydd angen ei wneud, yn lleihau'r posibilrwydd bod pobl hŷn yn cael eu twyllo gan adeiladwyr anghofrestredig ac yn sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'r holl gymorth sydd ar gael ar eu cyfer.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ac am wybodaeth am eich asiantaeth Gofal a Thrwsio leol, mae croeso i chi droi at wefan Gofal a Thrwsio Cymru (dolen allanol).