Skip to content

Addysg a hyfforddiant

Dolenni perthnasol

Cofl eidio sgiliau a chymwysterau newydd, cyfarfod ffrindiau newydd a chynyddu eich hyder.
Sylwer ein bod, yn unol â’r dyddiadau penodol ar gyfer dirwyn y cynllun i ben, wedi rhoi’r gorau i ddosbarthu ffurflenni cais ar 24 Medi 2010.
Pecyn cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynorthwyo unigolion i ennill sgiliau newydd, i oresgyn rhwystrau a'u helpu i ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted â phosibl.
Dyn yn yr ystafell ddosbarth
Mae'r Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo Addysg Drwy Oes. Mae'r dychweliad i addysg neu'r datblygiad o'ch sgiliau chi yn buddiol bob amser.

Dychwelyd i Addysg

Gall dychwelyd i addysg ffurfiol eich helpu i newid eich llwybr gyrfa neu eich cadw'n brysur ar ôl i chi ymddeol. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig llawer o gymorth i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Dyma rai o'r pethau y gallwch fod yn gymwys i'w derbyn:  

  • Benthyciad Datblygu Gyrfa 
  • Cyfrif Dysgu Unigol Cymru
  • Costau Teithio/cludiant
  • Benthyciadau cynnal a chadw
  • Benthyciad neu grant Ffioedd Dysgu
  • Grant Dysgu'r Cynulliad ar gyfer Addysg Uwch
  • Grant Oedolion Dibynnol

Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i weld rhestr lawn o'r cymorth sydd ar gael. 

Prentisiaethau

Efallai na fyddant yn dod i'r meddwl yn syth ond mae prentisiaethau yn cynnig amgylchedd dysgu strwythuredig ynghyd â chymhwyster cydnabyddedig. Mae gwahanol fathau o Brentisiaethau ar gael (Modern Sylfaenol, Modern a Diploma Sgiliau Modern) ac maent yn agored i bawb o bob oedran.

Yr Wythnos Addysg Oedolion

Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gŵyl a dathliad mwyaf Prydain o addysg oedolion. Fe’i cydlynir gan NIACE Dysgu Cymru gyda chyllid craidd gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Mae’r Wythnos yn cynnig cyfle i oedolion roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd drwy geisio un o’r cannoedd o sesiynau blasu rhad ac am ddim a gynhelir ledled Cymru yn ystod yr wythnos, a chyfle i ddarparwyr dysgu i arddangos eu darpariaeth.

Caiff yr wythnos ei threfnu gan y National Institute of Adult Continuing Education Dysgu Cymru (NIACE DC). Cafodd NIACE DC ei sefydlu ym 1985 gyda'r nod o gynghori llywodraethau cenedlaethol a lleol. Ewch i wefan NIACE DC.