Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Dolenni perthnasol

Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw ein poblogaeth hŷn a’n poblogaeth sy’n heneiddio. Yn y cyd-destun hwn, mae Gwahaniaethu ar sail Oedran yn parhau yn broblem fawr y mae pobl hŷn yn ei hwynebu, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud fel gwirfoddolwyr, gofalwyr, arweinwyr cymunedol, gweithwyr ac yn bwysicaf oll fel unigolion sydd â chyfoeth o brofiad i'w rannu â chenedlaethau eraill. 

Mae'r Strategaeth Pobl Hŷn yn cynrychioli gweledigaeth Llywodraeth  Cymru o herio gwahaniaethu a delweddau negyddol o heneiddio, ac i ddathlu byw yn hwy fel cyfle. 

Ers 2003 , rydyn ni wedi cael nifer o lwyddiannau sydd wedi denu cydnabyddiaeth yn genedlaethol a rhyngwladol, sy'n cynnwys: 

  • Creu Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn i gynghori gweinidogion ar broblemau heneiddio
  • Strwythur cyson o gydlynwyr, hyrwyddwyr a fforymau pobl hŷn lleol ym mhob ardal awdurdod lleol 
  • Cryfhau sefydliadau oedran yn y trydydd sector yng Nghymru
  • Sefydlu Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hŷn a Heneiddio (OPAN Cymru)
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth i ddangos bod y buddsoddi yn y Strategaeth wedi'i ad-dalu trwy ymdrechion cydweithredol yn gysylltiedig â rhaglenni gwneud y gorau o incwm a rhaglenni ataliol. 

Rydyn ni'n cydnabod, fodd bynnag, bod llawer i'w wneud eto.  Rydyn ni am barhau i fynd ar ôl ein huchelgais o wneud Cymru yn lle gwych i dyfu'n hen.  Rydyn ni am wneud hyn trwy: 

  • Adolygu ail gyfnod ein Strategaeth Pobl Hŷn erbyn Ebrill 2012 
  • Lansio trydydd cyfnod newydd yn 2013
  • Cyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Darparu'r weledigaeth i drawsnewid a amlinellir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy - fframwaith gweithredu 

Gwenda Thomas AC yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Bobl Hŷn.

David Sissling yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.