Skip to content

Cytundebau Canlyniadau

Dolenni perthnasol

Mae Cyd-Ddealltwriaeth Newydd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r Cynulliad a Llywodraeth Leol.



Mae Cytundebau Canlyniadau yn ceisio adeiladu ar gryfderau’r Cytundebau Gwella a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2010, gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd o’u gweithredu a’u gwerthuso.

Sefydlwyd Cytundebau Canlyniadau rhwng pob awdurdod lleol unigol a Llywodraeth Cymru. Bydd y Cytundebau yn para am dair blynedd gan ddod i ben ym mis Mawrth 2013. Yn y Cytundebau hyn, mae deg thema strategol gyffredinol sydd wedi dod yn wreiddiol o ddogfen Cymru’n Un. Lle bo hynny’n bosibl, byddant yn adlewyrchu amcanion gwella presennol neu arfaethedig yr awdurdod.

Dylent:

  • Ddarparu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer rheoli perfformiad yn lleol ac yn genedlaethol, ac sydd wedi’i alinio’n glir â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru er ei fod hefyd yn cadw ei ffocws lleol;
  • Pennu fframwaith atebolrwydd mwy effeithiol trwy gysylltu gwelliannau a chanlyniadau lleol da gyda chymhelliannau;
  • Symleiddio a chryfhau cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gan leihau costau gweinyddol a hwyluso’r gwaith o sicrhau arbedion effeithlonrwydd.

Mae’r Cytundebau Canlyniadau yn gysylltiedig â grant pro-rata a delir i awdurdod yn ôl y graddau y mae wedi cyflawni’r canlyniadau a nodir yn ei Gytundeb.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch Cytundebau Canlyniadau, e-bostiwch LGSPConsultations@wales.gsi.gov.uk.

Cytundebau Awdurdod Lleol Canlyniadau

22/06/11
Mae prosbectws y Cytundeb Canlyniadau yn disgrifio sut y dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i ddatblygu ac wedyn fonitro'r Cytundebau hyn.
 

Crynodebau o'r Cytundebau Canlyniadau

17/06/11
Mae crynodebau'r cytundebau canlyniadau, yn cynnwys y prif bartneriaid cydweithredol a chanlyniadau lefel uchel, ar gael isod.