Skip to content

Awdurdodau Unedol

Dolenni perthnasol

Y Cynghorau Tref a Chymuned yw llais llywodraeth leol ar lawr gwlad yng Nghymru.

Mae'r 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yn darparu ystod eang o wasanaethau.

Mae’n rhaid i addysg, er enghraifft, fod ar gael o dan gyfraith y DU a Chymru; mae eraill yn cael eu darparu yn ôl disgresiwn yr awdurdodau unigol. Ymhlith y gwasanaethau y mae'r awdurdodau lleol yn eu darparu fel arfer y mae:

  • safonau masnach 
  • llyfrgelloedd, hamdden a thwristiaeth 
  • iechyd yr amgylchedd, gwastraff ac ailgylchu 
  • trafnidiaeth a phriffyrdd 
  • tai 
  • gwasanaethau cymdeithasol.

Er y gellir olrhain hanes llywodraeth leol yng Nghymru i'r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf, dim ond ers 1996 y mae'r 22 awdurdod unedol haen sengl presennol yng Nghymru wedi bodoli. Nid yw'r rhain wedi'u rhannu'n gynghorau sir a dosbarth, fel y mae awdurdodau lleol yn y rhan fwyaf o Loegr. Ar lefel fwy lleol, mae cynghorau cymuned a thref yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd hwy.

Mae pob awdurdod lleol yn atebol yn ddemocrataidd drwy etholiadau sy'n cael eu cynnal bob pedair blynedd. Mae gan yr awdurdodau lleol weithrediaeth ar ffurf cabinet, lle mae'r prif grŵp gwleidyddol neu gynghrair yn gwneud y penderfyniadau, a'r cyngor cyfan yn craffu arnynt. Mae ganddynt strwythurau staff helaeth o dan arweiniad prif weithredwr, sy'n cydweithio ag uwch swyddogion eraill ar y busnes beunyddiol ac ar y penderfyniadau y mae angen eu gwneud o ddydd i ddydd.

Cyllid a pholisi awdurdodau lleol

Mae awdurdodau unedol Cymru yn gwario bron i £7 biliwn y flwyddyn ar eu gwasanaethau. Mae'r symiau a gaiff pob awdurdod yn amrywio'n sylweddol rhwng yr awdurdodau mawr fel Caerdydd a'r rhai llai o faint fel Merthyr Tudful ac Ynys Môn. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80 y cant o gyllid refeniw yr awdurdodau unedol, a daw'r rhan fwyaf o’r gweddill o'r dreth gyngor.

Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r agenda bolisi gyffredinol ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru, ond mae'n osgoi defnyddio'i phwerau i reoli'r ffordd y maent yn gweithredu. Sail ein perthynas gyda'r awdurdodau lleol yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r awdurdodau lleol hefyd yn cydweithio'n agos â chyrff eraill fel y GIG a'r heddlu.

Mae pob awdurdod unedol yng Nghymru yn aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae CLlLC yn cynrychioli eu barn a'u buddiannau ar y cyd, ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth i awdurdodau unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai o brosiectau CLlLC, fel ei gwaith ar gydraddoldeb a gwella gwasanaethau.

Mae'r dudalen Gweithio mewn Partneriaeth yn darparu gwybodaeth am y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol.