Skip to content

Cytuno ar Drafodion a Balansau i Awdurdodau Lleol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn amlinellu’r broses ar gyfer cytuno ar drafodion a balansau i gynorthwyo ymarferiad y Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (CLlG) 2011-12.

Adolygwyd y broses er mwyn ymdrin â materion a godwyd yn dilyn yr archwiliad a wnaed ar ymarferiad byw y llynedd, ac mae’n ceisio symleiddio’r gofynion er mwyn gwella ansawdd y data. Mae Is-grŵp y CLlG wedi cefnogi’r nodiadau cyfarwyddyd, ac mae pob cyswllt yn yr Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddarllen y nodiadau cyn llenwi’r cytundebau.

Hefyd ceir Atodiad A, sef y ffurflen a ddefnyddir gan yr Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn dod i gytundeb. Datblygwyd Atodiad B i’w ddefnyddio rhwng yr Awdurdodau Lleol, ac mae CG01 ar gyfer cyrff llywodraeth ganolog, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol.