Skip to content

Dilysiad - Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol - 2013 - 2014




Dilysu data anariannol ar gyfer cyfrifo asesiadau gwario safonol (SSAs).

Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i gasglu gwybodaeth anariannol gan awdurdodau lleol a’i defnyddio i gyfrifo asesiadau gwario safonol (SSAs). Mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cytunwyd y dylid rhoi cyfle i awdurdodau lleol graffu ar y data anariannol a ddefnyddir er mwyn sicrhau ei fod mor gywir ac mor ddibynadwy ag sy'n bosibl.

Crynodeb o’r broses ddilysu

Cyflawnir y broses o wirio’r data mewn dau gylch. Dylai’r cylch cyntaf o ddata fod ar gael i'w lawrlwytho o 1 Gorffennaf ymlaen a bydd yr ail gylch o ddata ar gael i'w lawrlwytho ddechrau fis Medi pryd y cyhoeddir y setiau data sy'n weddill.

Y weithdrefn

Gofynnwn i chi fynd i’n gwefan, lawrlwytho’r daenlen ar gyfer y cylch cyntaf o ddata a chraffu ar y data anariannol sy’n gysylltiedig â’ch awdurdod chi. Mae’r data ar ffurf taenlen ac mae’n cynnwys setiau data ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol. Hefyd, mae tablau sy’n cynnwys data sy’n gysylltiedig â’r pedair blynedd data diwethaf. Rydym wedi cynnwys y tablau at ddibenion cymharu yn unig.

Hefyd, i gyd-fynd â’r data, mae nodyn ar y wefan sy’n disgrifio’r data yn fwy manwl. Mae’n rhaid cwblhau’r gwaith o ddilysu’r cylch cyntaf o ddata erbyn 31 Gorffennaf 2012 a byddem yn gwerthfawrogi pe gallech ddychwelyd y ffurflenni atom cyn gynted ag sy’n bosibl cyn y dyddiad hwn. Mae disgwyl ichi gwblhau’r gwaith o ddilysu’r ail gylch o ddata erbyn 30 Medi 2012 fan bellaf. Byddwn yn cysylltu â chi ynghylch yr ail gylch yn nes at y dyddiad.

A fyddech cystal â llenwi’r ffurflen ddilysu a’i dychwelyd atom ni yn y post neu ffacs neu sganio ac e-bostio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y data, nodwch hwy ar y ffurflen ymholiadau a’i hanfon yn ôl i’r cyfeiriad e-bost canlynol LocalGovernmentSettlement@wales.gsi.gov.uk . Er nad oes ymrwymiad ffurfiol arnoch chi i gymryd rhan yn yr ymarfer hwn, fe’i hystyrir yn rhan bwysig o’r broses ymgynghori ar setliad refeniw Cymru ac yn y pen draw, y broses o gyfrifo asesiadau gwario safonol (SSAs).

Disgyblion Ysgolion Annibynnol

Hefyd, gofynnwn i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddisgyblion a gaiff eu haddysgu mewn ysgolion annibynnol i ddisgyblion sydd heb ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (ac eithrio ysgolion arbennig) y mae eich awdurdod yn talu ffioedd dysgu llawn ar eu cyfer. Er gwybodaeth, ceir llinell yn y ffurflenni Alldro Refeniw o dan y ffurflen AR1 Addysg sy’n cyfeirio at hyn: "Other assuring access to schools (including fees to independent schools)". Dylid darparu’r wybodaeth mewn perthynas â’ch sefyllfa ym mis Ionawr 2012 yn ystod y cylch cyntaf a dylid ei rhannu rhwng y grwpiau blwyddyn canlynol:

  • disgyblion yng ngrŵp blwyddyn derbyn neu yng ngrŵp blwyddyn M2 (mewn un ai ysgolion meithrin neu ysgolion cynradd),
  • disgyblion ysgolion cynradd yng ngrwpiau blwyddyn 1 ac uwch,
  • disgyblion ysgolion uwchradd yng ngrwpiau blwyddyn 10 ac 11, 7-11 a 12-14.

Rhoddir credyd i’r disgyblion hyn yn uniongyrchol yn yr Asesiadau Gwario Safonol (SSAs) ac felly mae’n bwysig iawn y darperir yr wybodaeth er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrifon yn gywir. A fyddech cystal â nodi’r ffigurau i ni ar y ffurflen ymholiadau. Oni bai eich bod yn nodi’n wahanol, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad oes gennych ddisgyblion sy’n perthyn i’r categori hwn.

Dilysu data anariannol ar gyfer cyfrifo asesiadau gwario safonol

02/07/12
Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu manylion gwirio a dilysu data anariannol pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.