Skip to content

Ardrethi Annomestig (busnes)

Dolenni perthnasol

Adolygiad y grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes o ryddhad ardrethi busnes i elusennau yng Nghymru.
Mae'r hwn yn amlinellu'r Cyfraddau Llog ar Ordaliadau ers 2005.
Dileu Trethi Busnes Ôl-ddyddiedig ar gyfer Eiddo Busnes a Holltwyd neu a Gyfunwyd.
Rydyn ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth amrywiol i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu.
Mae busnesau cryf, arloesol a chystadleuol yn hanfodol i economi Cymru.
Bob pum mlynedd, caiff eiddo anomestig (busnesau) eu hasesu er mwynrhoi ardrethi newydd iddynt wedi'i seilio ar werthoedd rhentu at ddibenamcangyfrif atebolrwydd ar gyfer ardrethi busnes.

Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw’n ardrethi busnes. Treth ar eiddo yw’r rhain a delir ar eiddo annomestig. Dyma’r ffordd y mae busnesau a defnyddwyr eraill eiddo annomestig yn cyfrannu at gostau gwasanaethau awdurdodau lleol.

Mae ardrethi annomestig yn cael eu cyfrifo trwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eiddo a’i luosogi gyda 'lluosydd' neu’r 'tâl yn y bunt' ar gyfer ardrethi annomestig am y flwyddyn dan sylw. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), sy’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn prisio’r eiddo at ddibenion codi ardrethi annomestig ac yn pennu’r Gwerth Ardrethol.

Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r lluosydd bob blwyddyn ac nid oes modd ei gynyddu'n uwch na mynegai prisiau manwerthu y mis Medi blaenorol. Y lluosydd dros-dro ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 yw 0.452. Mae sawl gwahanol ryddhad ardrethi ar gael a all helpu i ostwng bil ardrethi busnesau neu eiddo annomestig eraill. Mae Llywodraeth Cymru’n talu 100 y cant o bob rhyddhad ardreth gorfodol ac c mewn rhai achosion canran o hyd at 90% o’r rhyddhad yn ôl disgresiwn. Gall busnes apelio yn erbyn ei Werth Ardrethol os yw o’r farn bod hynny’n anghywir.

Mae’r holl ardrethi annomestig yn cael eu casglu a’u talu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Maent wedyn yn cael eu rhoi’n ôl i awdurdodau lleol fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Defnyddiwch y dolenni isod:-