Skip to content

Beth yw'r Undeb Ewropeaidd?

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau sy'n rhan o Faterion Rhyngwladol.
Baneri yr UE
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd a sut y daeth i fodolaeth. Ym 1957, llofnodwyd Cytuniad Rhufain gan 6 aelod gwreiddiol (Gwlad Belg, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen, yr Eidal, Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd). Crëodd hyn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a ddatblygodd yn Undeb Ewropeaidd (UE) maes o law.

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn bartneriaeth unigryw rhwng 27 gwlad sydd wedi ymrwymo i gydweithio'n agos er lles eu holl ddinasyddion i sicrhau heddwch a ffyniant.

Dechreuodd yr UE ar sail yr awydd am heddwch yn Ewrop ar ôl y ddau Ryfel Byd. Roedd 6 gwlad (Gwlad Belg, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen, yr Eidal, Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd) yn teimlo bod modd sicrhau heddwch drwy gydweithredu diwydiannol a chrëwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop ym 1951. Datblygodd hyn yn sylweddol ym 1957 pan grëodd yr aelodau hyn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd i greu marchnad gyffredin lle gellid symud nwyddau, gwasanaethau, cyfalaf a llafur yn rhydd. Ym 1992, cafodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ei gweddnewid ymhellach i greu'r Undeb Ewropeaidd.

O ddechreuadau bychain yn seiliedig ar gydweithredu diwydiannol, datblygodd yr UE i gynnwys undeb tollau, polisi amaethyddol cyffredin, trefniadau cydweithio ar ynni atomig, un math o arian (i rai) a marchnad sengl (y fwyaf yn y byd!). Heddiw, mae'r UE yn cydgysylltu polisi ar draws ystod eang o faterion: cyfiawnder a materion cartref, datblygu rhanbarthol, diwydiant a chystadleurwydd, telathrebu, trafnidiaeth, ymchwil, addysg, iechyd, ieuenctid, diwylliant, amaethyddiaeth, cymorth datblygu a pholisi tramor.

Mae'r UE hefyd wedi ehangu'n ddaearyddol. Erbyn hyn, mae ganddo 27 o aelodau ac mae rhagor o wledydd yn aros i ddod yn aelodau. Mae Croatia, Cyn-wladwriaeth Iwgoslafaidd Macedonia, Twrci, Gwlad yr Iâ a Montenegro wedi gwneud cais i ymuno â'r UE.

Y 27 aelod-wladwriaeth yw Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Hwngari, Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, y Deyrnas Unedig, y Ffindir, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd a'r Weriniaeth Tsiec. Ymunodd y DU ym 1973.

Mae'r UE yn ymestyn dros 4,324,782 km o dir ac mae ganddo dros 150,000 km o forlin a phoblogaeth o ryw 498 miliwn o bobl.