Skip to content

Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) yng Nghymru.

Mae deddfwriaeth yr UE yn cael blaenoriaeth ar unrhyw ffurf ar gyfraith ddomestig, ac mae'n anwybyddu unrhyw gyfraith ddomestig sy'n gwrthdaro â hi.

Mae tri math o ddeddfwriaeth yr UE:

  • Rheoliadau (sy'n rhwymo ac yn berthnasol ledled yr UE);
  • Cyfarwyddebau (sy'n rhwymo ond mae gan Aelod-wladwriaethau rywfaint o ddisgresiwn wrth eu dehongli yng nghyd-destun cyfraith ddomestig);
  • Penderfyniadau (sy'n rhwymo'r Aelod-wladwriaeth neu'r unigolyn y maent yn cyfeirio ato).

Mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaethau roi effaith i ("trosi") ddeddfwriaeth yr UE yn y system gyfreithiol ddomestig. Mae'r rhwymedigaeth hon yn codi amlaf mewn perthynas â chyfarwyddebau.

Deddfwriaeth yr UE yng Nghymru

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi'r awdurdod i Lywodraeth Cynulliad Cymru weithredu deddfwriaeth yr UE yng Nghymru os yw pwnc y ddeddfwriaeth newydd yn dod o fewn maes polisi datganoledig neu'n effeithio arno.

Mae hyn yn gyson ag egwyddor Datganoli yr Undeb Ewropeaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol ystyried y dinesydd cymaint â phosibl wrth wneud penderfyniadau. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag gweithredu mewn modd neu lunio deddfwriaeth sy'n groes i rwymedigaethau o'r fath a/neu gyfraith Gymunedol.

Dirwyon

Gall peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr UE arwain at ddirwyon. Maent yn codi amlaf yn sgil gweithredu mewn ffordd amhriodol, methu gweithredu un o ddeddfau'r UE neu ei gorfodi mewn ffordd annigonol. Y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gyfrifol am ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn aelod-wladwriaeth y mae'n ystyried ei bod wedi methu cydymffurfio â'i rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth yr UE; gelwir y broses hon yn achos 'tor-dyletswydd'. Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd sy'n gyfrifol am benderfynu a yw hynny wedi digwydd mewn gwirionedd a beth fydd y canlyniad.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw faterion sy'n ymwneud â deddfwriaeth Ewropeaidd, cysylltwch â'r Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol yn enquiries.european@cymru.gsi.gov.uk