Skip to content

Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson

Dolenni perthnasol

Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddwyd adroddiad ar pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Rheoli’r gwaith o weithredu argymhellion Adolygiad Simpson a hyrwyddo datblygiadau sefydliadol ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Bydd y grŵp hwn yn gweithredu fel bwrdd ar gyfer y rhaglen i fwrw ymlaen ag argymhellion Simpson ac i ddatblygu dulliau gweithredu i sicrhau newidiadau a datblygiadau sefydliadol yn ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.  

O fewn cyd-destun Simpson, bydd yn:

  • darparu modd o oruchwylio’r gwaith o weithredu agenda Simpson yn llawn, gan fwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu cytûn sy’n flaenoriaeth, er mwyn dangos y cynnydd ymarferol mewn meysydd allweddol;
  • sicrhau cydymffurfiaeth ag agenda eang ar gyfer diwygio llywodraeth leol, sydd wedi’i lunio yn sgil Adroddiad Simpson ac i weithredu diwygiadau penodol i addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol;
  • datblygu model clir sy’n adlewyrchu effeithiau diwygiadau unigol i’r ddarpariaeth o wasanaethau ar rolau awdurdodau lleol, eu swyddogaethau corfforaethol a’u dulliau o weithio; a
  • sicrhau cydlyniad a nodi cyfleoedd mewn perthynas â swyddogaethau corfforaethol a rennir, a’r gwasanaeth cyhoeddus yn ehangach.

O ran yr agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus ehangach, bydd yn comisiynu grwpiau gorchwyl a gorffen i:

  • helpu i ddatblygu systemau darbodus a dulliau meddwl trwy systemau fel cyfleoedd i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a
  • datblygu cyfleoedd i greu dulliau newydd o weithio gan nodi unrhyw oblygiadau technolegol, neu oblygiadau sy’n ymwneud ag asedau ac adnoddau dynol.