Skip to content

Y Gronfa Buddsoddi i Arbed

Dolenni perthnasol

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi gweld heddiw sut y mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru yn helpu Cyngor Sir y Fflint i arbed £460,000 y flwyddyn.
Cafodd y dyraniadau diweddaraf o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed eu cyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid.
Mae cleifion yng Nghaerdydd yn dod adre’n gyflymach ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty, diolch i fuddsoddiad o £100,000 gan gynllun Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru.
Jane Hutt,  Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, £11m ar gael o’r gronfa Buddsoddi i Arbed.
Heddiw mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, wedi cyhoeddi pwy fydd ar eu hennill yn sgil cylch cyllido diweddaraf Buddsoddi i Arbed.
Gwelodd Jane Hutt y Gweinidog Cyllid heddiw bod pobl fregus yng Ngogledd Cymru yn cael cymorth i aros yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach, diolch i Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru.
Cyn cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, bydd y Gweinidog Cyllid heddiw’n gweld sut mae dull newydd o brynu nwyddau yn golygu arbedion i ysgolion ym Merthyr Tudful.
Cafodd buddsoddiad £7.3 miliwn y mae disgwyl iddo arbed £14 miliwn y flwyddyn i’r sector cyhoeddus, ac oddeutu £64 miliwn yn y tymor hwy ei gyhoeddi gan Jane Hutt y Gweinidog Cyllid heddiw.
Nod y Gronfa yw helpu prosiectau gwella sector cyhoeddus.
Arian
Mae arian y gronfa Buddsoddi i Arbed ar gael i gyrff gwasanaethau cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i weddnewid eu ffordd o weithio.  



Mae’r gronfa’n cefnogi ffyrdd newydd a hen ffyrdd llwyddiannus o weithio i wneud y gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol. 

Mae Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi buddsoddiad o £45 miliwn fan lleiaf mewn prosiectau newydd dros y tair blwyddyn ariannol nesaf.  Bydd y Gronfa’n targedu prosiectau strategol, yn enwedig y rheini sy’n:

  • Arwain at sicrhau arbedion sylweddol sy’n rhyddhau arian parod;
  • Darparu gwasanaethau sy’n rhoi’r dinesydd yn gyntaf;
  • Cefnogi agweddau pwysig o agenda gwella effeithiolrwydd a gwelliannau ehangach gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid ad-dalu holl fuddsoddiadau'r Gronfa, ond ni chodir llog ac mae'r cyfnod ad-dalu'n hyblyg. Bydd hyn yn sicrhau bod y Gronfa'n gynaliadwy a'i bod ar gael i fuddsoddi mewn prosiectau newydd yn y dyfodol.  

Hyd yma, mae’r gronfa wedi buddsoddi mewn 59 o brosiectau, gwerth rhyw £65 miliwn rhyngddynt.  Os hoffech wybodaeth am yr holl brosiectau sydd wedi derbyn nawdd y Gronfa Buddsoddi i Arbed, gan gynnwys manylion cyswllt y prosiectau, lawrlwythwch y ddogfen isod. 

Pryd a sut i wneud cais?

Caiff y cynllun Buddsoddi i Arbed ei reoli ar sail rowndiau cyllid, gyda cheisiadau’n cael eu gwahodd ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mae’r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi mai ar 5 Tachwedd 2013 y bydd y rownd nesaf o gyllid yn cychwyn. 

Rydyn ni’n argymell yn gryf bod y rheini sydd am gyflwyno cynnig Buddsoddi i Arbed yn datblygu’r cynnig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ac yn ei drafod gyda’r Uned Buddsoddi i Arbed. Mae gwneud hyn yn sicrhau bod prosiectau’n barod ac mewn sefyllfa dda pan fydd galw am geisiadau newydd. Os hoffech chi ddatblygu cynnig i’w gyflwyno, efallai y byddwch yn gyntaf am ei drafod gyda’r tîm Buddsoddi i Arbed i’w brofi yn erbyn meini prawf y Gronfa. Wedi hyn, bydd y tîm yn rhoi cyngor cychwynnol ynghylch a ddylech lenwi ffurflen mynegi diddordeb. 

Os ydych am drafod cynnig neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â’r tîm Buddsoddi i Arbed ar:
Ffôn: 02920 825110   E-bost: I2Sinvestmentfund@wales.gsi.gov.uk

I gael gwybodaeth am y gronfa, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin a chyngor ar sut i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.

Canllawiau a ffurflen gais

Canllawiau a ffurflen gais

14/05/13
Canllawiau gan gynnwys nifer o gwestiynau cyffredin.
 
Manylion y Prosiectau sydd wedi derbyn Cymorth

Manylion y Prosiectau sydd wedi derbyn Cymorth

07/11/12
Manylion y Prosiectau, sy'n cynnwys enwau cyswllt ac astudiaethau achos, sydd wedi derbyn cymorth.